Cystadleuaeth Poster PhD WISERD 2021


Mae’n bleser gennym gyhoeddi enillydd ein Cystadleuaeth Poster PhD WISERD 2021 flynyddol.

Muhao Du o Brifysgol Caerdydd sydd wedi ennill y wobr am ei boster – ‘Finding Harmony in Hardship: experiences of expatriates in subsidiaries of Chinese MNCs in the high technology sector’.

Mae Emma Reardon o Brifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant wedi ennill y wobr am ei chyflwyniad – ‘“I feel like a square peg in a round hole”: How is autism perceived and does it matter?’.

Mae’r gystadleuaeth yn rhan o’n Cyfres Haf ar-lein a gynhaliwyd yr wythnos diwethaf, yn lle ein Cynhadledd Flynyddol arferol. Noddwyd y gwobrau yn garedig gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru.

Gwahoddwyd myfyrwyr PhD o bob rhan o Gymru i gyflwyno posteri a chyflwyniadau fideo. Roedd panel beirniaid eleni yn cynnwys yr Athro John Harrington (Cyfarwyddwr Partneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru); Martin Pollard (Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru); Yr Athro Lydia Morris, Prifysgol Essex (aelod o Fwrdd Cynghori WISERD); Yr Athro Sally Power (Cyfarwyddwr WISERD) a’r Athro Paul Chaney (Cyd-gyfarwyddwr WISERD).

Nod y poster oedd rhoi cyhoeddusrwydd i faes ymchwil i gynulleidfa anarbenigol mewn ffordd weledol. Mae’r cyflwyniad yn rhoi cyfle allweddol i fyfyrwyr PhD ddatblygu eu gallu i egluro eu hymchwil yn gryno i gynulleidfa eang, a allai fod yn gyfarwydd â’u gwaith neu beidio. Mae’r gystadleuaeth yn dangos ymrwymiad WISERD a’n partneriaid i gefnogi’r rheini yng nghamau cynnar eu gyrfaoedd ymchwil.

Cynhyrchwyd poster buddugol eleni ‘Finding Harmony in Hardship: experiences of expatriates in subsidiaries of Chinese MNCs in the high technology sector’ gan Muhao Du (Prifysgol Caerdydd). Bydd yn derbyn £200 mewn Tocynnau Llyfrau Cenedlaethol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru.

Dywedodd Muhao: “Rwy’n falch iawn fy mod wedi ennill cystadleuaeth boster WISERD. Yn y poster, roeddwn ni’n ceisio cyfleu fy mrwdfrydedd dros fy ymchwil ac rwy’n falch iawn ei fod wedi creu cyswllt mor dda gyda’r gynulleidfa.”

Dywedodd Martin Pollard (Prif Weithredwr Cymdeithas Ddysgedig Cymru) o’r panel beirniadu: “Dewison ni’r poster hwn am ei fod wedi llwyddo i grisialu darn cymhleth a diddorol o ymchwil mewn fformat gweledol ddeniadol oedd yn amlwg yn hygyrch i gynulleidfa nad oedd yn arbenigwyr. Roedd yn cyfleu’r negeseuon allweddol heb ein llethu â gwybodaeth.”

Derbyniodd Claire Pescott (Prifysgol De Cymru) Ganmoliaeth Uchel am ei phoster – ‘“Me, my selfie and I”: an exploration of 10 and 11 year olds’ identity portrayal on social media’.

Rhoddwyd y cyflwyniad buddugol eleni ‘“I feel like a square peg in a round hole”: How is autism perceived and does it matter?’ gan Emma Reardon o Brifysgol y Drindod Dewi Sant. Bydd yn derbyn £200 mewn Tocynnau Llyfrau Cenedlaethol gan Bartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC.

Meddai Emma: “Rwy’n falch iawn bod fy nghyflwyniad wedi’i ddewis fel enillydd. Does neb eisiau bod yn beg sgwâr mewn twll crwn – mae fy ymchwil yn rhan o fudiad ehangach sy’n ceisio gwella canlyniadau drwy wneud y tyllau hynny’n fwy sgwâr i bobl Awtistig.”

Dywedodd yr Athro Lydia Morris (Prifysgol Essex ac aelod o Fwrdd Cynghori Strategol WISERD) o’r panel beirniadu: “Nid yn unig oedd y cyflwyniad yn egluro cynnwys yr ymchwil, ond roedd hefyd yn galluogi’r gwrandäwr i ddeall pam fod y poster wedi’i greu ar ei ffurf benodol.  Roedd y cyflwyniad yn agor ffenest i fyd y profiad o awtistiaeth.”

Cafodd Rhian Grace Lloyd (Prifysgol Bangor) Ganmoliaeth Uchel am ei phoster – ‘”…ti’n rhan ohonaf fi…” Esblygiad hunaniath gofalwyr’.

Yn wahanol i flynyddoedd blaenorol, lle mae cynrychiolwyr wedi cael gwahoddiad i weld yr arddangosfa bosteri yn ystod ein Cynhadledd Flynyddol, mae pob un o’r posteri eleni, ynghyd â chyflwyniadau cysylltiedig, ar gael i’w gweld ar ein gwefan. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth eang o feysydd, o hunaniaeth ddigidol a chanfyddiadau o awtistiaeth i brofiadau alltudion a gwarcheidwadaeth gwrth-fewnfudo.


Rhannu