Cydraddoldeb hiliol yng Nghymru oedd ffocws Darlith Flynyddol Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru 2021 y bu dros 200 o bobl yn ei gwylio’n fyw ar Zoom wythnos diwethaf.
Cyflwynwyd y ddarlith, Dangos gwir liwiau: gwleidyddiaeth newidiol cydraddoldeb hiliol yng Nghymru, gan yr Athro Charlotte Williams OBE, Cadeirydd Gweithgor diweddar Llywodraeth Cymru, ‘Cymunedau, Cyfraniadau a Chynefin: Pobl Dduon, Asiaidd a Lleiafrifoedd Ethnig yn y Cwricwlwm Newydd’.
Rhoddodd Charlotte Williams sylwebaeth graff ac arsylwadau ar yr hyn roedd yn ei alw’n “symudiad critigol” mewn perthynas â chydraddoldeb hiliol yn genedlaethol.
Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ei Chynllun Gweithredu Cydraddoldeb Hiliol Drafft ym mis Mawrth eleni. Ar yr un pryd, cyhoeddwyd adroddiad Sewell Llywodraeth y DU, oedd yn gwrthod hiliaeth sefydliadol. Mae’r ymateb i anghydraddoldeb sydd wedi’i ailfywiogi’n llwyr a geir yng nghynllun Cymru yn gosod agenda i gyflawni Cymru gwrth-hiliol erbyn 2030.
Trafododd yr Athro Williams y symudiad pendant hwn i ffwrdd o wleidyddiaeth hil ehangach y DU, gan egluro ei fod yn bosibl oherwydd arbenigrwydd y cyd-destun Cymreig, datganoledig, a’r hyn mae’n ei olygu ar gyfer cynnydd posibl o ran cydraddoldeb hiliol yng Nghymru.
Dywedodd: “Er mwyn datblygu cydraddoldeb hiliol yng Nghymru mae’n rhaid i ni ddeall sut y caiff hil ei chynrychioli yng Nghymru, yr hyn rwy’n ei alw’n ‘feddylfryd hil ’. Mae cydraddoldeb hiliol yn mynd ymhell y tu hwnt i bolisi cyhoeddus, i holi cwestiynau am hunaniaeth cymdeithas ei hun.”
Aeth ymlaen: “Mae’r bygythiad i hunaniaeth genedlaethol Cymru’n llai; dyw hi ddim yn cyd-fynd â’r weledigaeth amddiffynnol ‘Prydain fach’ a geir yn Lloegr. Ceir tystiolaeth fod Cymru’n agored ac yn barod i ailffurfio ei hunaniaeth genedlaethol yn y ddemocratiaeth newydd.”
Gorffennodd trwy ddweud: “Rydym ni’n paratoi agenda dad-wladychu ym maes addysg. Ail-ffurfio ffyrdd Cymreig o fyw yw’r hyn fydd yn golygu y gall y polisïau hyn deithio.”
Dywedodd yr Athro Michael Woods, Cyd-gyfarwyddwr Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru; “Mae llofruddiaeth George Floyd flwyddyn yn ôl, mudiad Black Lives Matter, a thrafodaethau ynghylch gwaddol caethwasiaeth wedi codi ymwybyddiaeth o anghyfiawnder hiliol ledled y byd. Dyw Cymru ddim yn eithriad ac roedd darlith Charlotte yn gyfraniad pwysig i ddangos sut y gallwn ffurfio cymdeithas sy’n fwy cyfiawn o ran hil.”
Darllen pellach:
WISERD Research on Race and Ethnicity
Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru
Canolfan ymchwil ryngddisgyblaethol newydd ym Mhrifysgol Aberystwyth yw Canolfan Wleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru, gyda’r nod o ddatblygu ein dealltwriaeth o wleidyddiaeth a chymdeithas gyfoes yng Nghymru yng nghyd-destun byd cydgysylltiedig, gan gefnogi a chyflawni gwaith ymchwil o safon fyd-eang yn y gwyddorau cymdeithasol, a chyfrannu at wybodaeth gyhoeddus a dadleuon a datblygiad polisi yng Nghymru.
Mae’r Ganolfan yn adeiladu ar enw da Sefydliad Gwleidyddiaeth Cymru a Sefydliad Ymchwil, Data a Methodoleg Gymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Aberystwyth, ac yn dwyn ynghyd ddaearyddwyr, gwyddonwyr gwleidyddol, seicolegwyr a haneswyr o’r Athrofa Daearyddiaeth, Hanes, Gwleidyddiaeth a Seicoleg yn ogystal â gwyddonwyr cymdeithasol o adrannau cysylltiedig sy’n ymddiddori yng Nghymru.
Mae Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru hefyd yn gweithredu fel cangen Aberystwyth o WISERD, gan ddarparu cysylltiadau â gwyddonwyr cymdeithasol ym mhrifysgolion Bangor, Caerdydd, De Cymru ac Abertawe.