Data newydd ar gyfer Deall gwefan Lleoedd Cymru


Yr wythnos hon, mae WISERD, y Sefydliad Materion Cymreig ac Ymddiriedolaeth Carnegie UK wedi lansio diweddariad i wefan Deall Lleoedd Cymru.

Mae Deall Lleoedd Cymru yn wefan ddwyieithog sy’n cyflwyno gwybodaeth am yr economi, cyfansoddiad demograffig a gwasanaethau lleol o fwy na 300 o leoedd yng Nghymru mewn fformat cyflym a hawdd. Mae’r wefan yn cyflwyno gwybodaeth am bob lle yng Nghymru sydd â mwy na 1,000 o drigolion, a dadansoddiad cymharol o bob lle sydd â mwy na 2,000 o drigolion.

Ar hyn o bryd, ar lefel awdurdod lleol yn unig mae llawer o ystadegau a gesglir am Gymru ar gael ac, yn rhy aml, mae polisïau cyhoeddus yn anwybyddu cymunedau trefol, oherwydd yr anhawster i gael gafael ar ddata ar y lefel honno. Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn canolbwyntio ar lefel y gymuned, gan roi ystadegau clir a chymharol am leoedd ar draws meysydd polisi allweddol. Ei nod yw pontio’r ‘bwlch data’ sy’n bodoli am drefi. Bydd hyn, yn ei dro, yn llywio ac yn dylanwadu ar ddatblygiad polisïau a fydd yn helpu’r ardaloedd y mae cymaint ohonom yn byw ynddynt.

Dywedodd yr Athro Scott Orford: “Crëwyd gwefan Deall Lleoedd Cymru gan dîm data WISERD ar y cyd â’r Sefydliad Materion Cymreig ac Ymddiriedolaeth Carnegie UK. Mae’r wefan yn ategu DataPortal WISERD trwy gynnig platfform i gyrchu a chymharu ystadegau allweddol am gymunedau a lleoedd yng Nghymru. Mae DataPortal WISERD wedyn yn caniatáu i ymchwilwyr fynd ymhellach os dymunant, gan gynnig offer i chwilio a darganfod, lawrlwytho a mapio data manylach am Gymru ar amrywiaeth o raddfeydd gofodol.”

Mae’r diweddariad hwn ym mis Rhagfyr 2020 yn cynnwys: 

  • Cyflwyno dros 70 o ddisgrifiadau newydd am leoedd fel bod stori pob lle yn cael ei chrynhoi’n glir cymaint â phosibl gan bobl sy’n byw ac yn gweithio yno.
  • Newidynnau newydd ar gyfer pob lle gan gynnwys data ynglŷn â mynediad at wasanaethau, mynediad i fannau gwyrdd, argaeledd band eang, nifer y toiledau cyhoeddus, nifer y busnesau cynhyrchiol ac ystadegau iechyd meddwl, a bydd pob un ohonynt yn hanfodol i sut mae Cymru yn adeiladu ei dyfodol ar ôl COVID-19.
  • Mapiau Llif Poblogaeth newydd yn dangos ymfudiadau a theithiau dyddiol yng Nghymru ac ar draws y ffin i Loegr.

Mae Deall Lleoedd Cymru eisoes yn caniatáu i bobl archwilio a chymharu ystadegau ar wahanol drefi, gan gynnwys gwybodaeth am y canlynol:

  • Poblogaeth, dosbarthiad oedran, ethnigrwydd a hunaniaeth genedlaethol
  • Nifer y lleoedd ysgolion cynradd ac uwchradd fesul person
  • Y diwydiant cyflogaeth, pellteroedd cymudo a chymwysterau
  • Nifer yr ysbytai, meddygon teulu a deintyddion y pen

Dywedodd Hannah Blythyn AS, Dirprwy Weinidog Tai a Llywodraeth Leol: “Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i rymuso canol trefi a chymunedau. Mae’r pandemig wedi rhoi cyfle i bobl ddod i adnabod eu cymuned ac archwilio lle maen nhw’n byw mewn ffordd na fydden nhw efallai wedi’i wneud o’r blaen.

“Mae ein hagenda Trawsnewid Trefi yn rhoi trefi Cymru wrth galon popeth a wnawn, gan greu cyfleoedd ac ymdeimlad o le. Bydd hyn yn sicrhau bod ein trefi’n goroesi yn ogystal â ffynnu trwy ddeall yn well pwy sy’n ffurfio eu cymunedau a pha wasanaethau sydd eu hangen arnynt.

Yr wythnos hon byddwn yn dechrau ein cyfres o ddosbarthiadau meistr Tref CAMPUS i edrych ar sut y gall canol trefi ddefnyddio data i’w helpu i addasu. Mae gwefan Deall Lleoedd Cymru yn fan cychwyn perffaith i bobl gyrchu data a dechrau deall eu trefi yn fwy manwl, ac rwy’n annog pawb i ymweld â’r wefan.”

Meddai Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig: “Dros y flwyddyn ddiwethaf, rydym wedi gweithio gyda phobl mewn cymunedau ledled Cymru i’w diweddaru â data newydd sy’n tynnu sylw at asedau pob lle, fel y gellir cefnogi pobl i wneud newidiadau cadarnhaol lle maent yn byw ac yn gweithio ar sail y dystiolaeth sydd o’u cwmpas.  Mae hyn yn hanfodol gan fod effaith COVID-19 mor wahanol yn ein holl gymunedau.”

Dywedodd Jennifer Wallace, Pennaeth Polisi Ymddiriedolaeth Carnegie UK: “Rydym yn falch iawn o fod yn cefnogi cymunedau yng Nghymru i gynllunio ar gyfer eu dyfodol gan ddefnyddio’r data newydd hwn. Trwy gydol y pandemig rydym wedi gweld pobl leol yn dod at ei gilydd i gynnig cydgefnogaeth. Gobeithiwn y bydd yr adnodd hwn yn eu helpu i gymryd y cam nesaf wrth feddwl sut y gallant weithio gyda’i gilydd i wella gwead cymdeithasol, amgylcheddol ac economaidd eu cymdogaethau.”


Share