‘Galw am annibyniaeth’: ymchwil newydd yn esbonio strategaeth pleidiau o blaid annibyniaeth


Mae ymchwil newydd yn dadlau bod Plaid Cymru wedi gwneud ei galwadau am annibyniaeth i Gymru yn llai amlwg er mwyn er mwyn blaenoriaethu ceisio sicrhau pleidleisiau rhwng 2003 a 2015, ac wedi gwneud eu galwad am annibyniaeth yn fwy blaenllaw ar ôl 2019, gydag arweinyddiaeth newydd y blaid yn sbarduno hyn yng nghyd-destun y newid gwleidyddol sylweddol wrth i’r DU ymadael â’r UE.

Mae’r galwadau am annibyniaeth wedi cynyddu ar draws rhannau o Ewrop yn y degawd diwethaf. Mae’r ymchwil newydd hwn yn cynorthwyo i ddeall beth sy’n arwain pleidiau o blaid annibyniaeth i fod yn fwy amwys neu bendant ar y mater.

Trafodir y canfyddiadau mewn erthygl newydd gan Elin Royles gyhoeddwyd yn y cyfnodolyn Regional and Federal Studies yn seiliedig ar ddadansoddiad o faniffestos Plaid Cymru 2003-2021 ac ymchwil pellach gan gynnwys cyfweliadau ag unigolion blaenllaw ddoe a heddiw ym Mhlaid Cymru.

Rhai o’r ffactorau a ddylanwadodd ar agwedd Plaid Cymru at fater annibyniaeth oedd perthnasau grym mewnol, deinameg cystadleuaeth bleidiol a gwleidyddiaeth aml-lefel, yn ogystal â datblygiadau ar draws y wladwriaeth, yn enwedig safbwynt y blaid lywodraethol ar lefel y wladwriaeth am y galw am fwy o ymreolaeth i’r lefel is-wladwriaethol ac effaith pleidiau o blaid annibynaieth mewn mannau eraill yn y wladwriaeth.

Mae’r dadansoddiad hefyd yn cadarnhau effaith gref ideoleg ar gyfyngu ar alwadau Plaid Cymru am annibyniaeth rhwng 2003 a 2015. Roedd Llywydd cyntaf y blaid (1926-1939), Saunders Lewis, yn gwrthod hunan-lywodraeth ac annibyniaeth fel amcanion y blaid a dylanwadodd yn ddwfn ar amharodrwydd y blaid ar annibyniaeth. Roedd safbwynt mwy graddol a chymedrol y blaid hefyd yn benderfyniad strategol i  flaenoriaethu datblygu hunanlywodraeth i Gymru yn y 1990au yn dilyn sefydlu’r Cynulliad Cenedlaethol yn 1999 ac ymrwymiad y blaid i’r nod cyfansoddiadol terfynol o ‘annibyniaeth yn Ewrop’ yn 2003. Dylanwadwyd ar hyn gan drefniadau cyfansoddiadol y cyfnod, natur y gystadleuaeth etholiadol wynebai mewn etholiadau datganoledig ac i San Steffan, a chyda safbwynt cyfansoddiadol Llafur Cymru a oedd yn llwyddiannus yn etholiadol cyd-fynd â barn gyhoeddus Cymru lle taw’r tuedd oedd cynydd yn y gefnogaeth i fwy o bwerau i’r Cynulliad Cenedlaethol Cymru, nawr Senedd Cymru (Welsh Parliament).

Mewn gwrthgyferbyniad, roedd symudiad y Blaid i fod yn fwy pendant ar annibyniaeth  2016 wedi’i ddylanwadu’n gryf gan ganlyniad refferendwm Brexit a’r newid yn null Llywodraeth y DU o ymwneud gyda llywodraethau datganoledig yn y DU, y cyfeirir ato’n aml fel ‘undebaeth gyhyrol’. Arweiniodd yr amgylchiadau hyn at newid yn y farn gyhoeddus ar ddewis cyfansoddiadol gydag arwyddion o fwy o gefnogaeth i annibyniaeth yng Nghymru, yn enwedig yn ystod 2019-2021. Mae arweinyddiaeth Adam Price (2018-2023) hefyd yn cael ei hystyried yn ganolog yn y cyd-destun hwn o yrru’r blaid i fod yn bendant a gwneud annibyniaeth yn brif amcan cyfansoddiadol yn etholiad Senedd 2021.

Gellir defnyddio’r fframwaith a ddatblygwyd yn yr erthygl yn Regional and Federal Studies hefyd i wella dealltwriaeth o strategaethau pleidiau sydd o blaid annibyniaeth yng Nghatalwnia, Sardinia a Galicia.

Gellir darllen yr erthygl lawn yma.

 

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.


Rhannu