Dr Ian Thomas yn ymateb i ymgynghoriad Senedd Cymru


Mae Dr Ian Thomas, Cymrawd Ymchwil WISERD a hwylusydd Rhwydwaith Ymchwil Tai a Digartrefedd Cymru WISERD, wedi cyflwyno ei argymhelliad ar yr hyn y mae’n credu a ddylai fod yn brif flaenoriaethau’r Pwyllgor Llywodraeth Leol, Tai a Chynllunio yn ystod y Seithfed Senedd. Bydd darparu’r safbwyntiau hyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddaraf yn helpu i lywio cynllunio strategol Senedd Cymru a’i rhaglen waith at y dyfodol.

Yn ei ymateb, mae Dr Thomas yn nodi dwy flaenoriaeth sylweddol ar gyfer y Seithfed Senedd: datblygu a chyhoeddi Cynllun Gweithredu Rhoi Terfyn ar Ddigartrefedd yng Nghymru wedi’i ailwampio a gwella casglu data digartrefedd a chymorth tai, ei dryloywder a’r defnydd ohono.

Awgryma Dr Thomas:

Byddai gwella’r dirwedd data digartrefedd yng Nghymru, gan gynnwys argaeledd data a’u defnydd ar gyfer gwerthuso ac ymchwil, yn cryfhau’r sylfaen dystiolaeth sydd ei hangen i fonitro’r cynnydd tuag at roi terfyn ar ddigartrefedd, a hefyd yn cefnogi atebolrwydd, dysgu a gwelliant parhaus ar draws y sector.

O ran y cynllun gweithredu, mae ymateb Dr Thomas yn pwysleisio’r angen i gynnwys pobl â phrofiad bywyd a sefydliadau rheng flaen wrth ddatblygu cynllun wedi’i adnewyddu i helpu i sicrhau bod blaenoriaethau strategol yn seiliedig ar realiti digartrefedd a darparu gwasanaethau.

Mae’r ddwy flaenoriaeth yn adlewyrchu meysydd lle gallai craffu seneddol chwarae rhan bwysig wrth gefnogi diwygio polisi ystyrlon a chyraeddadwy.

Darllenwch yr ymateb llawn i’r ymgynghoriad.


Rhannu