Dyfarniad Ysgoloriaeth Preswyl Fulbright i Dr Igor Calzada


Fulbright SIR Program logo

Dyfarnwyd Ysgoloriaeth Preswyl Fulbright (SIR) i Dr Igor Calzada ym Mhrifysgol Talaith Califfornia, Bakersfield (CSUB) ar gyfer blwyddyn academaidd 2022-2023 gan Adran y Wladwriaeth. Cafodd y wobr ei chydlynu gan Gomisiwn Fulbright UDA-DU.

Mae pwyllgor adolygu Rhaglen SIR Fulbright a gynullwyd gan Gyngor Cyfnewid Rhyngwladol Ysgolheigion (CIES) IIE a Bwrdd Ysgoloriaeth Dramor Fulbright (FFSB) wedi argymell cynnig Dr Calzada i barhau â’i ymchwil ar ddinasyddiaeth ddigidol yn seiliedig ar y llyfr newydd hwn Emerging Digital Citizenship Regimes a lansio Sefydliad Astudiaethau Gwlad y Basg (IBS) newydd. Bydd yn adlewyrchu agwedd newydd Astudiaethau Basgaidd sy’n croestorri trawsnewidiadau digidol, trefol a gwleidyddol.

Bydd Gwobr SIR Fulbright Dr Calzada yn gwella cysylltiadau rhyngwladol WISERD ymhellach ac yn darparu cyfleoedd cyffrous ar gyfer cyfnewid diwylliannol a deallusol ac yn archwilio rhwydweithiau a chysylltiadau ymchwil rhyngwladol rhwng UDA, y DU ac Ewrop o amgylch yr Economi Sylfaenol Ddigidol (data/ cwmnïau cydweithredol platfform a hawliau digidol). O ganlyniad, bydd y wobr hon yn fodd i sefydlu rhwydweithiau rhyngwladol trwy Femorandwm Cyd-ddealltwriaeth (MoU) tair ffordd rhwng (i) Cymru (trwy WISERD/sbarc I spark) yn y DU, (ii) Califfornia (CSUB/IBS) yn UDA, a (iii) sefydliadau strategol allweddol yng Ngwlad y Basg (cwmnïau cydweithredol Mondragon) yn Sbaen a Ffrainc.


Share