Mae ymchwilwyr WISERD, Dr Stuart Fox (Prifysgol Brunel Llundain) a Dr Sioned Pearce (Prifysgol Caerdydd), wedi cael gwobr am ‘y papur gorau a gyhoeddwyd yn 2018’ gan Journal of Elections, Public Opinion and Parties, sef cyfnodolyn rhyngwladol a adolygir gan gymheiriaid sy’n cyhoeddi ymchwil wreiddiol o ansawdd uchel.
Mae’r papur, “The generational decay of Euroscepticism in the UK and the EU referendum”, yn ystyried un o’r agweddau mwyaf nodedig a hysbys ar y drafodaeth ynghylch Brexit: y rhwyg rhwng y cenedlaethau. Mae’r rhan helaeth o bobl iau (yn enwedig y rheiny o dan 35 oed) yn erbyn Brexit, tra bod pobl hŷn (yn enwedig y rheiny dros 60 oed) yn frwd o’i blaid.
Er bod academyddion yn gwybod ers peth amser bod pobl iau’n tueddu i fod yn fwy cefnogol o aelodaeth gyda’r UE na’r genhedlaeth hŷn, maent yn gwybod llai am y rhesymau dros hynny, ac ai effaith rhwng cenedlaethau yw hi (lle mae’r to sy’n codi’n tyfu gyda gwerthoedd sy’n eu gwneud yn fwy o blaid yr UE) neu effaith cylch bywyd (lle mae amgylchiadau bywyd pobl iau’n eu gwneud yn fwy o blaid yr UE).
Mae’r papur yn dangos bod y ddwy effaith i’w gweld: Mae’r mwyafrif o Genhedlaeth y Mileniwm yn erbyn Brexit achos nid ydynt erioed wedi profi’r DU y tu allan i’r UE – aelodaeth gyda’r UE yw’r sefyllfa normal iddynt. Ar yr un pryd, mae pobl iau’n gallu manteisio’n well ar y cyfleoedd y mae aelodaeth gyda’r UE yn eu cynnig – fel gweithio, byw, astudio a theithio dramor – na phobl hŷn, felly mae ganddynt fwy i’w golli drwy Brexit.
Mae’r astudiaeth y mae’r papur hwn yn rhan ohoni’n ein helpu i ddeall pam mae rhwyg rhwng y cenedlaethau dros Brexit, a pham mae dewisiadau pleidleiswyr hŷn ac iau’n ymddangos yn anghymodlon.