Mae nodweddion a chefndir teuluol plentyn yn ddangosyddion pwysig sy’n dangos a yw’n fwy tebygol o fod ag anghenion addysgol arbennig (AAA), yn ôl casgliad astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd.
Dadansoddodd yr academyddion ddata o 284,010 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru. Roedd bechgyn, disgyblion o ethnigrwydd Gwyn, disgyblion a oedd yn absennol yn barhaus, y rheini o gartrefi â chefndir economaidd-gymdeithasol is oll yn dangos mwy o debygolrwydd o gael eu canfod yn ddisgyblion ag AAA.
Yn ôl yr ymchwilwyr, gallai’r astudiaeth helpu i lywio datblygiad strategaethau cymorth mwy cynhwysol ac effeithiol yn fframwaith yr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) newydd yng Nghymru.
Dyma a ddywedodd yr awdur arweiniol, Dr Jennifer Keating yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ac Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (ADR Wales): “Mae’r astudiaeth hon yn pwysleisio pwysigrwydd ystyried y cyd-destun amgylcheddol, sef cyd-destun teuluol ac ysgol y plentyn yn ogystal â’i nodweddion unigol er mwyn deall ei anghenion yn fwy manwl gywir ac yn fwy cyfannol. Er bod y canfyddiadau hyn yn adleisio astudiaethau ymchwil blaenorol yn y maes hwn, does yr un astudiaeth ar y raddfa hon sy’n benodol i Gymru wedi bod sy’n defnyddio data ar lefel poblogaeth i lywio polisi ac addysgwyr.”
Wrth i Gymru bontio i system newydd i gefnogi plant ag anghenion dysgu ychwanegol, daw’r ymchwil hwn ar adeg bwysig. Mae’n hollbwysig bod cymorth yn cael ei dargedu yn y ffordd fwyaf effeithiol er mwyn i holl blant Cymru gael y cyfleoedd gorau i ddysgu a ffynnu.
Yn yr astudiaeth hon, cyfunodd academyddion ddata Cyfrifiad 2011 â data addysg weinyddol system hŷn AAA Cymru.
O dan yr hen drefn, bob blwyddyncanfuwyd AAA yn achos 20% o ddysgwyr yng Nghymru. Fodd bynnag, fel y noda’r papur, mae’r nifer hon wedi gostwng yn sylweddol ers cyflwyno system newydd yr Anghenion Dysgu Ychwanegol (ADY) yng Nghymru, gan gyrraedd 11.2% ym mis Ionawr 2024.
Mae Côd ADY Cymru, sy’n llywio’r system bresennol, yn nodi pedwar maes angen eang fydd gan blant hwyrach: cyfathrebu a rhyngweithio, gwybyddiaeth a dysgu, anghenion corfforol a/neu synhwyraidd, ac ymddygiad a datblygiad emosiynol a chymdeithasol.
Ychwanegodd Dr Keating: “Mae gostyngiad aruthrol wedi bod yn system ADY newydd Cymru o ran adnabod yr angen. Er mwyn gallu ystyried y rhesymau dros hyn ac i fonitro’r system newydd yn y dyfodol, mae’n bwysig deall yn gyntaf sut roedd plant yn debygol o gael eu hadnabod o dan system yr AAA gynt. Llinell sylfaen bwysig yw ein hastudiaeth i ddeall sut mae’r ddarpariaeth i bobl ifanc wedi newid, a diben ymchwil y dyfodol yw olrhain y trawsnewid hwn.”
Mae’r astudiaeth, What individual, family, and school factors influence the identification of Special Educational Needs in Wales? wedi’i gyhoeddi yn The British Journal of Educational Psychology.
Cyhoeddwyd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Caerdydd.