Llyfr newydd ar weithio o bell


Front cover of book

Bydd llyfr yr Athro Alan Felstead ar leoliadau gwaith sy’n newid, yn cael ei gyhoeddi ar 21 Ionawr.

Mae gweithio gartref wedi dod yn gwbl amlwg yn fyd-eang dros y ddwy flynedd ddiwethaf, wrth i wleidyddion gynghori ac weithiau roi cyfarwyddyd, y dylai’r rheini sy’n gallu, weithio gartref, er mwyn lleihau lledaeniad coronafeirws.

Mae Gweithio o Bell Trosolwg Ymchwil yn asesu pa effaith mae’r newid hwn wedi’i gael ar fywydau miliynau o weithwyr, y sefydliadau sy’n eu cyflogi a’r cymdeithasau y maent yn byw ynddynt. Mae hefyd yn edrych ar ddyfodol ôl-bandemig lle bydd gwaith yn cael ei wneud o bell neu’n rhannol oddi ar y safle – naill ai gartref, yn y caffi, bwyty neu’r bar lleol, neu tra’n symud o le i le.

Yn ôl adolygiadau cyn-cyhoeddi, mae’r gwaith yn:

‘Adroddiad hygyrch ac eto’n gwbl seiliedig ar ymchwil i’r materion allweddol – o ddatblygiad hanesyddol gweithio o bell, i’r ffurfiau y mae’n eu cymryd (gan gynnwys gweithio hybrid) a’r goblygiadau i reoli pobl ac ansawdd bywyd gwaith’

‘Adnodd ardderchog i’r rhai sy’n ymchwilio neu sydd â diddordeb mewn dysgu mwy am weithio o bell a gweithio hybrid’

‘Llyfr y mae’n rhaid i unrhyw un sydd â diddordeb yn y ffordd y mae lleoliad newidiol gwaith yn effeithio ar ein bywydau, ei ddarllen’

‘Llyfr cryno a hanfodol ar gyfer ymchwilwyr, cyflogwyr a gweithwyr sy’n gweithio o bell’

Dysgwch ragor amdano a’i archebu ar-lein.


Rhannu