Llyfr newydd gan WISERD ar gymdeithas sifil mewn oes o ansicrwydd


Civil Society in an Age of Uncertainty - front cover of bookMae llyfr newydd a olygwyd gan Paul Chaney ac Ian Rees Jones yn cyflwyno canfyddiadau gwreiddiol ac yn casglu elfennau craidd theori i dynnu sylw at rai o’r heriau dybryd sy’n wynebu cymdeithas sifil.

Dyma’r gyfrol olygedig ddiweddaraf i’w chyhoeddi fel rhan o gyfres llyfrau Civil Society and Social Change gyda Policy Press ac mae’n tynnu sylw at wersi trosglwyddadwy a fydd yn llywio polisi ac ymarfer yn yr oes o ansicrwydd sydd ohoni. Daw’r ymchwil amlddisgyblaethol sy’n cael sylw o raglen ymchwil cymdeithas sifil WISERD.

Meddai’r golygydd, yr Athro Paul Chaney: “Ein dadl gyffredinol yn y gyfrol hon yw pwysigrwydd cymdeithas sifil i les unigol a chyfunol, yn ogystal ag iechyd democratiaeth. Ar un llaw, mae ein gwaith ymchwil yn dangos gwytnwch cymdeithas sifil a’i gallu i addasu i ymdrin ag ansicrwydd, ac eto, ar y llaw arall, rydym yn dadlau bod gallu cymdeithas sifil i drechu yn wyneb yr heriau dirfodol ymhell o fod yn sicr. Yn hytrach, mae’n gofyn am wyliadwriaeth barhaus, hunan-drefnu cymdeithasol a chritigoldeb. Rydym hefyd yn tanlinellu’r bygythiad o fethiant elitaidd gwleidyddol i wrando ac ymgysylltu â diddordebau amrywiol, yn ogystal â diffyg ymddiriedaeth a diffyg gallu sefydliadau cymdeithas sifil i gymryd rhan.”

  • Ym Mhennod 3, ‘Civil society and the governance of city region economic development’, mae David Beel, Martin Jones ac Ian Rees Jones yn dadansoddi’r heriau y mae modelau datblygu economaidd yn eu hachosi i gymdeithas sifil, gan ddatgelu sut maent yn creu tensiynau sylweddol yn ogystal â chyflwyno cyfleoedd i gyfranogwyr cymdeithas sifil.
  • Ym Mhennod 4, ‘Civil society, pandemic, and the crisis of welfare: exploring mixed economy models of welfare in domiciliary adult social care in a devolved UK‘, mae Paul Chaney a Christala Sophocleous yn tynnu ar lenyddiaeth plwraliaeth lles ac yn cyflwyno tystiolaeth empirig newydd. Maent yn trafod ai cymdeithas sifil yw’r ateb i ddiwallu anghenion lles modern ac yn archwilio’r heriau y mae hyn yn eu cyflwyno.
  • Mae Pennod 5, ‘The contemporary threat to minority languages and cultures: civil society, young people and Celtic language use in Scotland and Wales‘, gan Rhys Jones, Elin Royles, Fiona O’Hanlon a Lindsay Paterson, yn archwilio rôl cymdeithas sifil yn y gorffennol a’r presennol wrth fynd i’r afael â’r bygythiad dirfodol sy’n wynebu dwy iaith ‘leiafrifol’: Cymraeg a Gaeleg yr Alban. Dyma broblem sy’n amlwg yn rhyngwladol. Mae arbenigwyr yn rhagweld y bydd hanner yr amcangyfrif o 6,800 o ieithoedd a siaredir heddiw wedi diflannu erbyn diwedd yr unfed ganrif ar hugain.
  • Ym Mhennod 6, ‘Digital threat or opportunity? Local civil society in an age of global inter-connectivity’, mae Michael Woods, Taulant Guma a Sophie Yarker yn archwilio’r heriau a’r cyfleoedd i gymdeithas sifil leol sy’n deillio o dechnolegau digidol, yn enwedig y cyfryngau cymdeithasol. Maent yn ystyried sut mae’r rhain wedi effeithio ar y ffyrdd y mae grwpiau cymdeithas sifil leol yn gweithredu ac yn trefnu yn eu hardaloedd; a sut mae technolegau digidol yn effeithio ar allu grwpiau cymdeithas sifil leol i greu cysylltiadau y tu hwnt i’w hardal leol.
  • Ym Mhennod 7, ‘Democratic decline? Civil society and trust in government’, mae Alistair Cole, Ian Stafford a Dominic Heinz yn archwilio dirywiad cyfoes ymddiriedaeth wleidyddol a’r bygythiad dirfodol posibl i ddemocratiaeth. Gan ddefnyddio dadansoddiad cymharol o’r DU, Ffrainc a’r Almaen, maent yn ystyried rôl cymdeithas sifil mewn atebion posibl ar gyfer adfer ymddiriedaeth wleidyddol a gwrthdroi dirywiad canfyddedig democratiaeth.
  • Ym Mhennod 8, ‘Xenophobia, hostility and austerity: European migrants and civil society in Wales’, mae Stephen Drinkwater, Taulant Guma a Rhys Dafydd Jones yn rhoi cipolwg newydd cyfoethog ar brofiadau ymfudwyr o sefydlu a rhedeg mentrau cymdeithas sifil newydd ac yn myfyrio ar yr amgylchedd ar ôl Brexit ar gyfer senoffobia a senohiliaeth, adrodd am droseddau casineb, a digonolrwydd yr amgylchedd polisi ehangach ar gyfer cynnal hawliau ymfudwyr a chynnal cymdeithas sifil.

Daw’r Athro Chaney i’r casgliad: “Yn y bennod olaf, ‘Prospects and perils for civil society in the 21st century‘, rydym yn myfyrio ar oblygiadau dadansoddiad empirig y gyfrol ac yn crynhoi’r heriau craidd a’r gwersi sy’n deillio o’r set amlddisgyblaethol hon o astudiaethau. Rydym hefyd yn archwilio’r rhagolygon a’r peryglon i sefydliadau cymdeithas sifil yng nghyd-destun heriau dirfodol parhaus mewn oes o ansicrwydd.”

Chaney, P. and Rees Jones, I. (goln) (2022) Civil Society in an Age of Uncertainty: Institutions, Governance and Existential Challenges, Bryste: Policy Press. ISBN 978-1447353416

I gael gostyngiad o 25%, ewch i https://bristoluniversitypress.co.uk/signup-bup-pp


Rhannu