Ymchwil newydd y gymdeithas sifil ar ddiwylliannau ac ieithoedd brodorol yn India


Flag of India

Mae’r Athro Paul Chaney a’r Athro Sarbeswar Sahoo (Sefydliad Technoleg India, Delhi) wedi cael grant Her Fyd-eang newydd gan Academi’r Gwyddorau Meddygol ac maen nhw’n dechrau prosiect sy’n edrych ar gymdeithas sifil a diwylliannau ac ieithoedd brodorol yn India. Byddan nhw’n gweithio ar y cyd â Dr Reenu Punnoose (Sefydliad Technoleg India, Palakkad).

Mae’r astudiaeth newydd yn cynnwys llwyth y Bhil yn Rajasthan a llwyth Irula o Kerala. Mae llwyth y Bhil yn un o’r hynaf yn India ac yn siarad iaith o darddiad Dravidian. Irula yw’r ail lwyth mwyaf yn Kerala. Maen nhw’n  byw yn rhanbarth Attappady yn Ardal Palakkad. Mae iaith Irula yn iaith annibynnol yn Ne Dravidian sy’n debyg i Tamil.

Bydd yr ymchwil newydd yn edrych ar y problemau, yr heriau a’r gwersi sy’n deillio o weithredu cymdeithas sifil i gefnogi diwylliannau ac ieithoedd brodorol. Rhoddir sylw hefyd i’r croestoriad rhwng iaith a chrefydd, agweddau ar iaith a diwylliant sy’n pontio’r cenedlaethau.

Civil Society and Citizenship in India and Bangladesh - book cover

Mae’r astudiaeth newydd yn dilyn gwaith cynharach gan Chaney a Sahoo yn edrych ar gymdeithas sifil a dinasyddiaeth yn India a Bangladesh. Roedd hwn yn archwilio hawliau rhywedd a hunaniaethau cymdeithasol, a’r profiadau cyferbyniol o ddemocratiaeth, gwahaniaethu ac anghydraddoldeb a wynebir gan wahanol grwpiau a chymunedau. Cyflwynir y canfyddiadau yn Civil Society and Citizenship in India and Bangladesh, Sarbeswar, S. a Chaney, P.  (2021), Llundain, Efrog Newydd, New Delhi, Bloomsbury Publishing ISBN 9789389611366.

 

Llun gan aboodi vesakaran ar Unsplash.


Rhannu