Papur newydd yn amlygu effaith trawsnewid diwydiannol mewn ardaloedd gwledig


Mae papur newydd yn y Journal of Rural Studies yn adrodd ar ymchwil o brosiect Global-Rural yr ERC a arweiniwyd gan CWPS-WISERD i archwilio trawsnewidiad diwydiannol pentref yn nwyrain Tsieina yng nghyd-destun globaleiddio.

Cyd-awduron y papur yw Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, ynghyd â chyn-ôl-ddoethur CWPS-WISERD, Dr Francesa Fois (sydd bellach ym Mhrifysgol Salford), yr Athro Hualou Long o’r Academi Gwyddorau Tsieineaidd, a Dr Yongqiang Liu a Dr Lin Dai o Brifysgol Ningbo. Mae’r papur yn datgelu mecanweithiau mewnol y trawsnewidiad ym mhentref Tengtou.

Mae’n dangos sut mae globaleiddio yn Tsieina wedi newid siâp economaidd-gymdeithasol a gofodol pentrefi yn sylweddol wrth i ddiwydiannau newydd sy’n canolbwyntio ar allforio ddatblygu. Yn achos Tengtou, digwyddodd hyn yn sgil ffatri ddillad sy’n cyflenwi manwerthwyr yn y gorllewin fel Marks and Spencer.

Mae’r ymchwil yn dangos sut mae trawsnewidiad diwydiannol Tengtou wedi amrywio’r economi leol ac adfywio’r gymuned, yn cynnwys moderneiddio tai a gwasanaethau cyhoeddus. Mae’r papur yn cyflwyno goblygiadau ehangach ar gyfer ailstrwythuro gwledig yn Tsieina.

Gellir gweld y papur yn: https://www.sciencedirect.com/science/article/pii/S0743016722002170?dgcid=coauthor

 

Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.


Rhannu