Papur newydd ar ffoaduriaid, hil a chyfyngiadau cosmopolitaniaeth wledig yng Nghymru ac Iwerddon


Mae Cyd-Gyfarwyddwr CWPS-WISERD, yr Athro Michael Woods, wedi cyhoeddi papur mynediad agored yn y Journal of Rural Studies sy’n edrych ar ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn ymgartrefu mewn tair tref fechan yng Nghymru ac Iwerddon, yn cynnwys Aberystwyth a’r Drenewydd.

Mae’r papur yn adeiladu ar erthygl gynharach a oedd yn cyflwyno’r syniad o gosmopolitaniaeth wledig simsan, gan ddadlau er bod ‘cosmopolitaniaeth’ wedi arfer cael ei chysylltu â dinasoedd mawr, mae profiadau diweddar gyda gweithwyr mudol, ffoaduriaid a cheiswyr lloches yn dangos tystiolaeth o gosmopolitaniaeth mewn trefi bach a lleoliadau gwledig, er ei bod yn simsan.

Mae’r papur newydd yn ystyried natur simsan cosmopolitaniaeth wledig ymhellach. Gan dynnu ar astudiaethau achos o Aberystwyth a’r Drenewydd, yn ogystal â Ballyhaunis yn Iwerddon, mae’r papur yn dangos bod agwedd gosmopolitanaidd a balchder wrth groesawu ffoaduriaid yn rhan o hunaniaeth leol yn y tair tref. Fodd bynnag, mae’n dadlau bod ‘cosmopolitaniaeth’ yn gosod disgwyliadau ar gyfer ymddygiad a rhyngweithio rhwng trigolion hirdymor a ffoaduriaid sy’n gallu bod yn anodd eu cynnal. Er mai prin yw hiliaeth agored yn y trefi, gall cosmopolitaniaeth gael ei thanseilio gan ddifaterwch a’i llesteirio gan gyfyngiadau economaidd a chymdeithasol trefi bychain sy’n gallu atal ffoaduriaid rhag ymgartrefu’n barhaol ac integreiddio yn y gymuned.

Mae’r papur yn tynnu ar ymchwil gan brosiect Global Rural yr ERC a Chanolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil WISERD yr ESRC.

 

Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru.


Rhannu