Cyhoeddiad newydd — Commons, Citizenship and Power: Reclaiming the Margins


Front cover of Commons, Citizenship and Power book.Mae Commons, Citizenship and Power: Reclaiming the Margins, llyfr diweddaraf yng nghyfres Cymdeithas Sifil a Newid Cymdeithasol WISERD, ar y cyd â Gwasg Policy, wedi cael ei gyhoeddi heddiw.

Ers 2010, mae poblyddiaeth a gwleidyddiaeth anrhyddfrydol wedi cynyddu. Mae arweinwyr demagog yn pregethu rhethreg orsyml i ddieithrio pobl gwan er mwyn pegynnu’r ddinas a’r cefn gwlad, a sbarduno digwyddiadau brawychus gan gynnwys y terfysg yn yr UDA ar 6 Ionawr 2021.

Cafodd ei olygu gan Filippo Barbera (Prifysgol Turin) ac Emma Bell (Prifysgol Savoie Mont Blanc). Mae’r llyfr rhyngddisgyblaethol hwn yn dadlau bod angen cynrychiolaeth ac atebolrwydd i helpu i drawsnewid profiadau pobl, er mwyn dangos bod pobl a ble maen nhw’n byw yn bwysig.

Mae’r llyfr yn dangos sut gall gwleidyddiaeth sy’n seiliedig ar leoedd gael ei ddefnyddio, a manteisio ar wybodaeth ar y cyd, yn hytrach na dibynnu ar Lywodraeth ganolog ddienw. Dadansoddi damcaniaeth ddemocrataidd a defnyddio astudiaethau achos o safon, o fudiadau protest i gynulliadau dinasyddion, mae’n dangos sut mae’n gallu rhoi ymdeimlad o reolaeth yn ôl i’r bobl.

Mae’r llyfr clawr caled ar gael o wefan Gwasg Policy.

Mae Filippo Barbera yn Athro Cymdeithaseg Economaidd yn Adran Diwylliannau , Gwleidyddiaeth a Chymdeithas ym Mhrifysgol Turin , ac yn Gymrawd yn Collegio Carlo Alberto.

Mae Emma Bell yn Athro Gwleidyddiaeth Brydeinig Gyfoes ym Mhrifysgol Savoie Mont Blanc.


Share