Cyhoeddiad newydd ar effeithiolrwydd y bartneriaeth rhwng y trydydd sector a’r llywodraeth yng Nghymru


A hand is holding a microphone and there is a lanyard in the background, on the lanyard it says Third Sector Representative for Equality Theme.

Mae Dr. Amy Sanders wedi cyhoeddi’r papur: A Welsh Innovation in Inclusive Governance. Examining the Efficacy of the Statutory Third Sector-Government Partnership for Engaging the Third Sector in Policymaking.

Mae’r erthygl hon yn ystyried i ba raddau y mae partneriaeth Llywodraeth Cymru â’r trydydd sector yn gweithio. Datblygiad arloesol a ddeilliodd o ddatganoli yw’r bartneriaeth, sy’n rhoi llais i’r trydydd sector wrth lunio polisïau, ac mae wedi’i hymgorffori mewn deddfwriaeth.

Mae’r papur yn edrych ar y graddau y mae newid yn digwydd mewn sefydliad, gan gydnabod bod partneriaeth o’r fath yn gyfrwng i newid polisïau, ond mae prosesau’r bartneriaeth eu hunain yn destun craffu i weld y graddau y gallant newid. Mae’r ddau fath o newid sefydliadol yn chwarae rhan yn y canfyddiad o’i effeithiolrwydd. Ac eto, mae’r ddealltwriaeth o’r bartneriaeth fel ffordd unigryw o weithio yng Nghymru yn atgyfnerthu’r canfyddiad am ei heffeithiolrwydd.

Mae’r papur hwn yn ymddangos mewn rhifyn arbennig o’r Revue Francaise de Civilisation Britannique ynglŷn â phenodolrwydd Cymru. Ysgrifennwyd y rhagarweiniad gan Mark Drakeford, Prif Weinidog Cymru.

Gallwch ddarllen y papur yma:
https://journals.openedition.org/rfcb/11339

Cyswllt

Dr. Amy Sanders ams48@aber.ac.uk

Ymddangosodd yr erthygl hon yn wreiddiol ar wefan Canolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru


Rhannu