Fel rhan o raglen ymchwil Canolfan Cymdeithas Sifil a ariennir gan ESRC WISERD, mae tîm o ymchwilwyr WISERD wedi cyhoeddi adroddiad newydd ar y broses o ddatblygu a gweithredu Bargen Twf Gogledd Cymru (NWGD), yn seiliedig ar arsylwadau o gyfres o gyfweliadau gyda rhanddeiliaid rhwng mis Gorffennaf i fis Rhagfyr 2021.
Cynhaliwyd pymtheg cyfweliad o bell gan dri ymchwilydd: Dr David Beel (Prifysgol Fetropolitan Manceinion), yr Athro Ian Rees Jones a Dr Bertie Russell (Prifysgol Caerdydd). Nodwyd ystod o gyfranogwyr posibl mewn deialog ag Alwen Williams, Cyfarwyddwr Rhaglen NWGD, ac roedd yn cynnwys swyddogion arweiniol ar gyfer yr economi, adfywio a datblygu ac arweinwyr awdurdodau lleol.
Mae’r adroddiad yn nodi cefndir yr NWGD ac yn rhoi cipolwg ar ddisgwyliadau’r hyn y mae’n anelu at ei gyflawni. Mae hefyd yn amlinellu pryderon rhanddeiliaid a’r heriau canfyddedig wrth gwrdd â’r rhain. Un o ganolbwyntiau canolog yr adroddiad yw deialog feirniadol gyda chyfranogwyr o ran y ffyrdd y gall meddwl economaidd sylfaenol, ddod o hyd i le o fewn strategaeth datblygu economaidd Gogledd Cymru.
Mae’r ymchwil yn cyfeirio at fanteision gwneud adnewyddiad strategol o’r NWGD ac mae’r adroddiad yn arsylwi pedwar cyfle i weithredu yn y cyfnod cynnar hwn o weithredu:
- Ystyried adnewyddu strategol Bargen Twf Gogledd Cymru
- Datblygu matrics gwneud penderfyniadau diwygiedig ar gyfer gwireddu cyllid cyfalaf
- Ailbrisio’r portffolio presennol o brosiectau nad ydynt eto wedi derbyn cymeradwyaeth Achos Busnes Llawn
- Archwilio posibiliadau i arloesi wrth wireddu gwerth cymdeithasol, gan ddenu buddsoddiad cyfalaf er mwyn caniatáu i brosiectau ‘gyffwrdd’ ardaloedd sylfaenol di-gyflog
Meddai Dr David Beel:
Mae’r adroddiad yn tynnu sylw at y ffordd y mae Gogledd Cymru, fel rhanbarth gwledig yn bennaf, yn ymgodymu ag amrywiaeth o syniadau datblygu blaengar, megis yr economi sylfaenol. Mae’n dangos nad yw integreiddio syniadau o’r fath yn broses hawdd na dros nos ond yn un sy’n gofyn am gryn feddwl, cynllunio a gweledigaeth. Mae’r adroddiad felly yn tynnu sylw at densiynau datblygu’r agenda economaidd ifanc hon o fewn cyd-destun taflwybrau polisi lleol, Llywodraeth y DU a Llywodraeth Cymru sy’n cystadlu â’i gilydd.
Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn fel rhan o brosiect ymchwil ehangach oedd yn canolbwyntio ar rôl polisi datblygu economaidd rhanbarthol wrth gefnogi cryfhau’r Economi Sylfaenol. Darllen mwy.