Newyddion

Yr Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria yw prif siaradwr Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025

Rydyn ni wrth ein boddau’n cyhoeddi mai’r prif siaradwr ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 yw’r Athro Irene Hardill o Brifysgol Northumbria. Bydd prif gyflwyniad yr Athro Hardill yn trin a thrafod sut y gwnaeth pandemig COVID-19 ddangos rôl hanfodol cymdeithas sifil ac elusennau wrth fynd i’r afael ag anghydraddoldebau ac anghenion heb eu diwallu….

Cofrestru ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD

Rydyn ni’n falch o gyhoeddi bod y wefan i archebu eich tocynnau rhad ac am ddim ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD 2025 bellach AR AGOR! Mae’r gynhadledd yn cael ei chynnal Ddydd Llun 30 Mehefin – Dydd Mawrth 1 Gorffennaf ym Mhrifysgol Aberystwyth. Cadwch eich lle yma: Cynhadledd Flynyddol WISERD | Prifysgol Aberystwyth Dewiswch yr…

Mynd i’r afael â heriau mwyaf argyfyngus cymdeithas

Ymchwil yn ystyried sut y gall cymunedau gydweithio i sicrhau newid cadarnhaol. Bydd academyddion yn ymchwilio i sut mae dinasyddion, sefydliadau cymdeithas sifil a llunwyr polisïau’n cydweithio i fynd i’r afael â rhai o broblemau mwyaf dybryd cymdeithas. Mae WISERD wedi sicrhau £1.6m o gyllid gan Gyngor Ymchwil Economaidd a Chymdeithasol UKRI (ESRC) ar gyfer…

Gwahaniaethu angheuol: gwaith ymchwil newydd ar sefyllfa hawliau dynol pobl ag Albinedd yn Affrica Is-Sahara

Mae fy ngwaith ymchwil newydd yn archwilio safbwyntiau cymdeithas sifil a gwladwriaethau ar statws hawliau dynol pobl ag albinedd (PWA), sef cyflwr genetig prin a nodweddir gan bigmentiad (melanin) llai neu absennol yn y gwallt, y croen a’r llygaid. Mae gan un ym mhob 20,000 o fabanod sy’n cael eu geni ledled y byd albinedd….

Enwebiad ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025

Mae’r monograff Cultural Cold Wars and UNESCO in the Twentieth Century gan W. John Morgan, un o Gymrodyr Emeritws Ymddiriedolaeth Leverhulme yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD), Prifysgol Caerdydd, ac Athro Emeritws ym Mhrifysgol Nottingham, wedi cael ei enwebu ar gyfer Gwobr Lyfr Wayne S. Vucinich 2025 yn yr Unol Daleithiau….

Ymchwil newydd ar sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobloedd brodorol ym Mangladesh

Mae ein hymchwil newydd yn trin a thrafod sefyllfa gyfoes hawliau dynol pobloedd brodorol ym Mangladesh. Yn ddiweddar, gwnaeth y tîm ddadansoddiad corpws o gyflwyniadau cymdeithas sifil i’r Adolygiad Cyfnodol Cyffredinol diweddaraf, sef digwyddiad monitro hawliau dynol a gynhelir gan y Cenhedloedd Unedig bob pum mlynedd. Er mwyn rhoi cyd-destun, amcangyfrifir bod pum miliwn o…

Gwleidyddiaeth Rasys Ceffylau: Ychwanegu Elfennau Gêm at Ymgysylltu Gwleidyddol

Mae Horse Race Politics (HRP) yn blatfform arloesol sy’n galluogi defnyddwyr i ragweld canlyniadau digwyddiadau gwleidyddol mewn cyd-destun cystadleuol ag elfennau gêm wedi’u hychwanegu ato. Mae HRP yn cael ei arwain gan ddau academydd yn WISERD, sef Dr Matthew Wall a Dr Louis Bromfield (ill dau o Adran Gwleidyddiaeth, Athroniaeth a Chysylltiadau Rhyngwladol Prifysgol Abertawe),…

Mae angen ystyried nodweddion unigol ac amgylchiadau teuluol wrth ganfod anghenion addysgol arbennig, yn ôl ymchwil

Mae nodweddion a chefndir teuluol plentyn yn ddangosyddion pwysig sy’n dangos a yw’n fwy tebygol o fod ag anghenion addysgol arbennig (AAA), yn ôl casgliad astudiaeth gan Brifysgol Caerdydd. Dadansoddodd yr academyddion ddata o 284,010 o ddisgyblion ysgol yng Nghymru. Roedd bechgyn, disgyblion o ethnigrwydd Gwyn, disgyblion a oedd yn absennol yn barhaus, y rheini…

Adroddiad newydd am arloesi democrataidd gan Dr Anwen Elias

Dr Anwen Elias, cyd-gyfarwyddwr WISERD yng Nghanolfan Gwleidyddiaeth a Chymdeithas Cymru ym Mhrifysgol Aberystwyth, yw prif awdur adroddiad diweddaraf y Sefydliad Materion Cymreig (IWA): Meithrin Arloesi Democrataidd yng Nghymru: Gwersi o Bedwar Ban Byd. Bydd Dr Elias yn sgwrsio gyda Joe Rossiter, cyd-gyfarwyddwr IWA, ddydd Mawrth 4 Mawrth i gyflwyno canfyddiadau allweddol yr adroddiad ac…