Prifysgol Bangor yn lansio canolfan ymchwil Cymdeithas Sifil


Heddiw bydd canolfan Cymdeithas Sifil ESRC yn cael ei lansio ym Mhrifysgol Bangor: Newid Safbwyntiau ar Haeniad Dinesig a Thrwsio Sifil.

Yn y lansiad, bydd Rhag Is-Ganghellor Ymchwil Prifysgol Bangor, yr Athro Paul Spencer a Chyfarwyddwr WISERD yr Athro Sally Power, Prifysgol Caerdydd, yn siarad am WISERD, ei rôl yng Nghymru a’r ffyrdd y gall ymchwilwyr ym Mangor gyfrannu ac elwa.

Ym Mhrifysgol Bangor mae WISERD yn cael ei arwain gan ddau Gyd-gyfarwyddwr – yr Athro Martina Feilzer a Dr Robin Mann, a fydd hefyd yn siarad yn y digwyddiad.

Yn 2019, derbyniodd WISERD drydedd gyfran o gyllid ESRC ar gyfer canolfan ymchwil ar agweddau ar gymdeithas sifil, yn benodol mewn perthynas â chydlyniant a haeniadau cymdeithasol. Mae’r ymchwil yn archwilio dynameg cynhwysiant a gwahardd mewn cymunedau, marchnadoedd llafur ac arfer dinasyddiaeth.

Dan arweiniad y ganolfan ymchwil newydd hon mae academyddion Prifysgol Bangor yn cychwyn prosiect ymchwil newydd ar ffiniau, mecanweithiau ffiniau ac ymfudo – darllenwch ragor o wybodaeth am y prosiect.

Dros y misoedd nesaf, bydd Prifysgol Bangor yn cyfrannu at gyfres o seminarau ymchwil ar-lein a hyfforddiant WISERD.


Rhannu