Etholwyd yr Athro W. John Morgan yn Athro Er Anrhydedd ym Mhrifysgol Iorddonen


School of Educational Sciences University of Jordan

John MorganMae’r Athro W. John Morgan, Cymrawd Emeritws Leverhulme, yn WISERD, wedi’i ethol yn Athro Anrhydeddus, Ysgol Gwyddorau Addysgol, Prifysgol Iorddonen. Mae hyni gydnabod ei gyfraniad at addysg gymharol a rhyngwladol a datblygiad cymdeithasol.

Ymhlith ei benodiadau niferus, mae’r Athro Morgan wedi bod yn Gadeirydd Comisiwn Cenedlaethol y Deyrnas Unedig ar gyfer UNESCO; aelod o Bwyllgor Llywio Rhaglen PEACE UNESCO ar gyfer Palestina; a Chomisiynydd Ysgoloriaethau’r Gymanwlad ar gyfer y Deyrnas Unedig.

 

Credyd delwedd: Malkawi99, CC BY-SA 3.0, drwy Wikimedia Commons. 

 


Rhannu