Adroddiad | Goblygiadau fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol


Coppieters Foundation panel discussion

Y llynedd, 30 mlynedd ers i’r Cenhedloedd Unedig wneud datganiad ar Hawliau Personau sy’n Perthyn i Leiafrifoedd Cenedlaethol neu Ethnig, Crefyddol ac Ieithyddol, galwodd y Rapporteur Arbennig ar Hawliau Lleiafrifol, Fernand de Varennes, am gytundeb newydd i gydnabod a diogelu hawliau lleiafrifoedd yn well.

Ar ran Sefydliad Coppieters, mae Dr Anwen Elias wedi ysgrifennu adroddiad sy’n ystyried goblygiadau cael fframwaith cyfreithiol newydd i amddiffyn hawliau lleiafrifol ar arfer yr hawl i hunanbenderfyniad.

Cyflwynodd Dr Elias y papur i’r Cenhedloedd Unedig yng Ngenefa ddydd Iau 30 2023 yn ystod y panel:  Digwyddiad ymylol i’r 16eg rhifyn o’r Fforwm ar Faterion Lleiafrifol.

Bu’r Panel yn ystyried fframwaith presennol y Cenhedloedd Unedig ar hawliau lleiafrifol o safbwynt cymunedau cenedlaethol o fewn gwladwriaeth fwy sy’n ceisio’r hawl i benderfynu drostynt eu hunain sut y cânt eu llywodraethu.

Roedd aelodau’r panel hefyd yn cynnwys Jordi Garrell, Cyfarwyddwr y ganolfan ryngwladol ar gyfer lleiafrifoedd ethnig, Centre International Escarré per a les Minories Ètniques i les Nacions (CIEMEN), ac Iñaki Irazabalbeitia, Aelod Biwrô o Sefydliad Coppieters.

Darllenwch yr adroddiad llawn yma:  Ymarfer yr hawl i hunan-benderfyniad:  Cyfleoedd a chyfyngiadau cytundeb newydd ar hawliau lleiafrifol


Rhannu