Ymchwil ar gefnogaeth wledig i wleidyddiaeth aflonyddgar yn ennill grant Ewropeaidd sylweddol


Professor Michael Woods

Bydd y berthynas rhwng anfodlonrwydd etholwyr mewn ardaloedd gwledig a chefnogaeth i symudiadau gwleidyddol aflonyddgar yn Ewrop a’r Unol Daleithiau, yn destun astudiaeth o bwys gan athro o Brifysgol Aberystwyth, yn sgil dyfarnu grant uchel ei fri.

Mae’r Athro Michael Woods wedi sicrhau cyllid o bron i €2.5 miliwn gan y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC) ar gyfer y prosiect sy’n dwyn y teitl ‘Anfodlonrwydd Gwledig, Cyfiawnder Gofodol a Gwleidyddiaeth Aflonyddgar yn yr Unfed Ganrif ar Hugain’ (Cyfiawnder-Gofodol-Gwledig).

Dros y pum mlynedd nesaf, bydd yr astudiaeth Cyfiawnder-Gofodol-Gwledig yn archwilio pam fod cefnogaeth allweddol wedi dod o du ardaloedd gwledig i Brexit ym Mhrydain, arlywyddiaeth Donald Trump yn yr Unol Daleithiau, a phleidiau poblyddol yn Ewrop megis plaid asgell-dde eithafol Marine Le Pen.

Bydd yn craffu ar sut mae anniddigrwydd ymhlith pobl wledig yn dylanwadu ar batrymau pleidleisio, yn ogystal ag edrych ar amrywiadau rhwng ardaloedd gwledig gwahanol.

Bydd y prosiect hefyd yn pwyso a mesur canlyniadau poblyddiaeth gynyddol o ran cynhwysiant ac amrywioldeb yng nghefn gwlad.

Eglurodd yr Athro Woods, o Adran Daearyddiaeth a Gwyddorau Daear y Brifysgol: “Mewn cyfnod o ansicrwydd gwleidyddol, mae’n bwysig ein bod yn deall sut y gall teimladau o anniddigrwydd ac anghyfiawnder yng nghefn gwlad fwydo cefnogaeth i symudiadau aflonyddgar. Bydd y grant hwn yn ein galluogi i gymharu patrymau mewn sawl gwlad a holi pam fod pwysau tebyg ar gymunedau gwledig yn esgor ar ganlyniadau gwleidyddol gwahanol mewn ardaloedd gwahanol.

“Yn bwysig, trwy ganolbwyntio ar yr hyn rydyn ni’n ei alw’n ‘gyfiawnder gofodol’, bydd y prosiect yn ceisio cydnabod cwynion dilys pobl cefn gwlad, tra hefyd yn tynnu sylw at brofiadau trigolion cefn gwlad sy’n cael eu heithrio neu eu bygwth gan rethreg sy’n pegynu. Rydym am weithio gyda chymunedau gwledig i ganfod ffyrdd teg a chynhwysol o fynd i’r afael â’r heriau sy’n eu hwynebu.”

Bydd y prosiect yn cymharu enghreifftiau ym Mhrydain, Ffrainc, Gwlad Pwyl, Sbaen a’r Unol Daleithiau, gan gydweithio â phartneriaid ym Mhrifysgol Kentucky a Phrifysgol Wisconsin Eau-Claire.

Bydd ymchwilwyr yn cyfuno dadansoddi a mapio canlyniadau etholiad, arolwg rhyngwladol sylweddol o 17,500 o bobl, ac astudiaethau achos lleol manwl.

Bydd Canolfan Ddeialog newydd Prifysgol Aberystwyth hefyd yn rhan o’r gwaith o hwyluso ymgysylltu â chymunedau.

Mae Grantiau Uwch yr ERC ymhlith cynlluniau cyllido uchaf eu bri a mwyaf cystadleuol yr UE, ac mae’r Athro Woods yn ymuno â nifer fach sydd wedi bod yn llwyddiannus wrth ennill dau ddyfarniad yn olynol, yn dilyn ei brosiect GLOBAL-RURAL 2014–2019 a fu’n ymchwilio i effeithiau globaleiddio ar ardaloedd gwledig. Mae’r grantiau wedi’u cynllunio i gefnogi arweinwyr ymchwil rhagorol sydd â hanes cydnabyddedig o lwyddiannau. Rhaid i ymgeiswyr ddangos natur arloesol, uchelgais ac ymarferoldeb eu cynnig gwyddonol. Wrth siarad am y dyfarniadau diweddaraf, dywedodd Maria Leptin, Llywydd y Cyngor Ymchwil Ewropeaidd (ERC): “Mae’r Grantiau Uwch ERC newydd hyn yn dyst i ansawdd rhagorol yr ymchwil a wneir ledled Ewrop. Edrychwn ymlaen at weld canlyniadau’r prosiectau newydd yn y blynyddoedd i ddod, gyda llawer yn debygol o arwain at ganfyddiadau a datblygiadau newydd.”

Ymddangosodd y newyddion hwn yn wreiddiol ar wefan Prifysgol Aberystwyth.


Rhannu