Mudiadau cymdeithas sifil y Roma, Sipsiwn a Theithwyr: Trin a thrafod profiadau a heriau yn Ewrop heddiw


Prof Martina Feilzer giving presentation at Roma, Gypsy and Traveller event

Ar 28 a 29 Medi, cymerodd cynrychiolwyr sefydliadau cymdeithas sifil ran yn ein digwyddiad ym Mhrifysgol Bangor i ystyried y profiadau a’r heriau mae’r Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn eu hwynebu yn Ewrop heddiw. Dros gyfnod o ddeuddydd, daeth y digwyddiad hwn â sefydliadau cymdeithas sifil, academyddion, llunwyr polisïau ac aelodau o’r gymuned at ei gilydd.

Roedden ni’n falch iawn o allu croesawu dau brif siaradwr i’r digwyddiad, gan ddechrau gyda Dr Adrian Marsh ar y diwrnod cyntaf, sef ymchwilydd o dras Teithwyr y Romani sy’n arbenigo yn Astudiaethau’r Romani ac sydd bellach yn gweithio yn Istanbwl ac yn arwain y Rhwydwaith Rhyngwladol ar Astudiaethau’r Romani.

Wedyn, mewn trafodaeth bord gron, cawson ni’r pleser o gyflwyno sawl sefydliad cymdeithas sifil o ledled y DU ac Ewrop sy’n cynrychioli pobl y Romani a thynnwyd sylw at yr heriau y maen nhw’n eu hwynebu. Ymhlith y sefydliadau cymdeithas sifil a gymerodd ran y mae: Romodrom (Gweriniaeth Tsiec), Community Renewal Trust (Yr Alban), Cymdeithas Gwaith Cymdeithasol y Sipsiwn, Roma a Theithwyr (Cymru), Teithio Ymlaen (Cymru), St James Centre (Lloegr), Slovo 21 (Y Weriniaeth Tsiec).

Bu cynrychiolwyr o bob sefydliad yn trafod eu gwaith anhepgor er mwyn sicrhau bod cymunedau’r Roma, Sipsiwn a Theithwyr yn rhydd rhag gwahaniaethu o bob math. Roedd llunwyr polisïau hefyd yn bresennol yn y trafodaethau; ganddyn nhw y mae’r dasg o gefnogi cymunedau’r Sipsiwn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Phobl sy’n byw mewn Cychod (GTRSB) yng Nghymru ac ystyried canfyddiadau a phrofiadau’r rheini yn y gymuned honno.

Dechreuodd yr ail ddiwrnod gyda’r ail brif siaradwr, yr Athro Margaret Greenfields a gyflwynodd Addewid GTRSBintoHE (Hyrwyddo Sipswn, Teithwyr, Roma, Siewmyn a Phobl sy’n byw mewn Cychod ym myd Addysg Uwch) sydd â’r nod o oresgyn rhwystrau sy’n cyfyngu ar nifer y bobl yn y cymunedau hyn sy’n mynd i fyd addysg uwch. Ymrwymiad cadarn gan brifysgolion, colegau a sefydliadau addysgol yw’r addewid i gymryd camau i gefnogi aelodau o’r gymuned i fynd i fyd addysg uwch, oherwydd mai dim ond 200 o aelodau’r gymuned ar gyfartaledd sy’n mynd i fyd addysg uwch ledled y DU (Greenfields, 2019; Mulcahy et al ., 2017). Athro Polisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol Anglia Ruskin yw Margaret ac mae ganddi hanes hir o weithio ar y cyd â chymunedau’r Sipsiwn Romani, Teithwyr, Siewmyn a Phobl sy’n byw mewn Cychod yn lleol, ledled y DU ac yn rhyngwladol.

Yn dilyn y sesiwn hon cafwyd gweithdy diddorol dan arweiniad Dr Adrian Marsh a oedd yn trafod y ddogfen ‘Romani research, Travellers’ Tales: an academic’s practical field guide to working with Gypsy, Roma, Traveller communities in contemporary social science, health and humanities research’.

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i sefydliadau cymdeithas sifil a gyfrannodd at ein hymchwil gwrdd ag academyddion, llunwyr polisïau a phobl eraill yn ogystal â myfyrio ar y profiadau a’r heriau y mae cymunedau’r Roma, Sipsiwn a Theithwyr a’r sefydliadau sy’n eu cefnogi yn eu hwynebu.

Dyma a ddywedodd Cyd-gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Martina Feilzer, sy’n gweithio ym Mhrifysgol Bangor:

Roedd y digwyddiad hwn yn gyfle gwych i wrando ar sefydliadau cymdeithas sifil sy’n cefnogi cymunedau’r Roma, Sipsiwn a Theithwyr ledled Ewrop yn ogystal ag academwyr yn y maes. Peth braf iawn oedd y cyfle hwn i sefydliadau cymdeithas sifil ddod at ei gilydd, rhannu syniadau ac ail-greu cysylltiadau ac roedd yr wybodaeth a’r hanesion academaidd ac ymarferol a rannwyd yn ein hysbrydoli ac yn hynod addysgiadol. Rydyn ni’n hynod ddiolchgar am amser a mewnbwn pawb – profiad anhygoel oedd y ddau ddiwrnod.

 


Rhannu