Mae ansawdd swyddi athrawon yn is mewn ysgolion gwladol nag mewn ysgolion preifat


Teacher leaning on wall in empty school corridor
  • Mae astudiaeth newydd yn dangos bod 60% o athrawon mewn ysgolion gwladol yn dod adref o’r gwaith wedi ymladd bob dydd, o gymharu â 37% o athrawon mewn ysgolion preifat sydd ‘ymhlith y gorau’
  • Mae athrawon o ysgolion gwladol yn fwy tebygol o fod yn gweithio ar ‘gyflymder uchel iawn’ gyda llai o annibyniaeth
  • Mae ysgolion gwladol wedi colli dros 15,000 o athrawon i ysgolion preifat ers 2014

Yn ôl adroddiad newydd a gyhoeddwyd gan y Polisi Fforwm Addysg Breifat (PEFF) mae athrawon mewn ysgolion gwladol Lloegr a Chymru yn dweud bod ansawdd swyddi yn waeth na’u cyfoedion mewn ysgolion preifat. Dyma adroddiad wedi’i ysgrifennu gan Alan Felstead a Katy Huxley o WISERD a Francis Green o Goleg y Brifysgol, Llundain.

Ymhlith y canfyddiadau allweddol roedd yr agoriad llygad bod 60% o athrawon mewn ysgolion gwladol yn dweud eu bod bob amser yn dod adref o’r gwaith wedi ymladd, o gymharu â 37% mewn ysgolion preifat sydd ‘ymhlith y gorau’ a 50% mewn ysgolion preifat eraill. Nodwyd ysgolion preifat ‘ymhlith y gorau’ fel y rhai sy’n ymddangos yn ‘The Times Parent Power 2023 Performance Guide to Schools’. Mae hyn yn cymharu â dim ond 18% yn y boblogaeth gyffredinol sydd ddim yn addysgu.

Daeth adroddiad y PEPF o hyd i anghysondeb mewn annibyniaeth o ran tasgau, gan fod 78% o athrawon mewn ysgolion preifat sydd ymhlith y gorau a 70% o ysgolion preifat eraill yn cael dewis eang o sut maen nhw’n mynd ati i wneud tasgau o ddydd i ddydd. Dim ond 60% o athrawon mewn ysgolion gwladol ddywedodd yr un peth.

Mae cyfran o’r athrawon sy’n dweud eu bod yn gweithio ar gyflymder uchel iawn o leiaf tri chwarter o’r amser, tra bod hyn yn 86% mewn ysgolion gwladol ac yn 80% mewn ysgolion preifat. Mae ymchwil seicolegol i’r maes yn ychwanegu at bwysigrwydd y canfyddiadau hyn, gan ddangos bod effaith dwyster uchel ar straen yn y gwaith yn fwy sylweddol mewn sefyllfaoedd ble mae annibyniaeth isel wrth ymgymryd â thasgau.

Mewn ymatebion agored enghreifftiol i arolwg Yr Undeb Addysg Genedlaethol (NEU), mae athrawon mewn ysgolion preifat yn dweud eu bod nhw hefyd yn wynebu amodau gwaith heriol yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mewn cyferbyniad i swyddi mewn proffesiynau eraill. Gwnaeth un athro anfodlon sylw: ‘’Nid yw pethau’n dda, mae disgwyl i chi wneud oriau ychwanegol. Does dim cydbwysedd bywyd-gwaith na chymorth gan uwch reolwyr, na chymorth i fy iechyd meddwl”.

Mae llai fyth o adroddiadau ffafriol am amodau gweithio gan athrawon mewn ysgolion gwladol. Dywedodd un ymatebydd bod addysgu’n rhoi boddhad iddi ond ei bod wedi gorfod, nid yn unig addysgu, ond “ymdrin â materion iechyd meddwl a bugeiliol trwy gydol y dydd”. Daeth i ben drwy ddatgan bod “yr amodau gwaith a blinder yn gwneud y swydd hon yn anghynaladwy yn y tymor hir.”

Mae’r amodau hyn yn debygol o fod wedi cyfrannu at y 15,000 o athrawon a gollwyd gan ysgolion gwladol i swyddi mewn ysgolion preifat rhwng 2014 a 2023. Mae ymadawiad o’r fath yn gymorth ariannol i’r sector breifat, gan fod athrawon yn cael eu hyfforddi gan y wladwriaeth.

Mae’r adroddiad yn galw ar y llywodraeth ac arweinwyr mewn ysgolion i gynyddu ymdrechion i ymroddi i ddatrys y broblem o faich gwaith, ac i gasglu a chyhoeddi gwybodaeth fwy cyflawn o’r llif o athrawon rhwng y sectorau.

Darllenwch yr adroddiad llawn.

 

Credyd delwedd: undefined undefined trwy iStock.


Rhannu