Opera IDEAL ‘Y Bont/ The Bridge’


Yn gynharach eleni, fe berfformiodd y tîm IDEALThe Bridge’, sef opera un act newydd am y profiad o fyw gyda dementia. Ysgrifennodd un aelod o’r gynulleidfa fod yr opera yn “ardderchog, yn procio’r meddwl ac mae angen ei darlledu ymhellach.” Mae’r tîm IDEAL wedi lansio ffilm o’r perfformiad Saesneg yn ddiweddar.

Gwyliwch The Bridge

Fel rhan o’r prosiect opera, maent hefyd wedi rhyddhau adnodd newydd Pecyn Cymorth Byw Gyda Dementia : Portreadu dementia. Mae’n cynnwys y ffilm opera a The World Turned Upside Down (ffilm ddogfen IDEAL am ddementia a chyfathrebu), yn ogystal â dau fideo newydd sy’n cynnwys aelodau o’r grŵp ALWAYS:

Gwyliwch y grŵp ALWAYS yn ateb cwestiynau gan aelodau cast yr opera: Rhan 1

Gwyliwch y grŵp ALWAYS yn ateb cwestiynau gan aelodau cast yr opera: Rhan 2

Digwyddiad ar y gweill

Bydd digwyddiad olaf y tîm IDEAL yn sesiwn ar-lein am ddim o’r enw Tystiolaeth ac adnoddau o 10 mlynedd y rhaglen IDEAL. Bydd yn cael ei chynnal fore Mercher 6 Rhagfyr, 10:00 – 12:00. Fiona Carragher o Gymdeithas Alzheimer yw’r siaradwr gwadd ochr yn ochr â’r tîm IDEAL a’r grŵp ALWAYS. Archebwch eich lle ar-lein.

Gwybodaeth

Rhaglen IDEAL (Gwella’r profiad o fyw gyda dementia a Chyfoethogi Bywyd Ymarferol) yw’r astudiaeth fwyaf o fyw’n dda gyda dementia ym Mhrydain Fawr. Bydd y dystiolaeth yn galluogi’r gwaith o ddatblygu polisïau, ymyriadau a mentrau newydd i drawsnewid bywydau pobl â dementia a’u gofalwyr.

Mae’ r Athro Ian Rhys Jones, Cyfarwyddwr Sefydliad Ymchwil Cymdeithasol ac Economaidd a Data Cymru (WISERD), a Dr Alex Hillman, Cyd-gyfarwyddwr WISERD, yn gyd-ymchwilwyr fel rhan o’r prosiect.

Mae’r grŵp ALWAYS (Action on Living Well: Asking You) yn cynnwys pobl â dementia a gofalwyr pobl â dementia sy’n cynghori ar wahanol agweddau ar y rhaglen IDEAL yn seiliedig ar eu profiad personol, eu sgiliau a’u harbenigedd.


Rhannu