Cynhadledd Flynyddol WISERD 2022


Delegates in foyer of Management Building at WISERD Annual Conference

Ar 6 a 7 Gorffennaf, daeth dros 140 o gynrychiolwyr, cyflwynwyr ac arddangoswyr o bum prifysgol bartner WISERD a thu hwnt ynghyd ym Mhrifysgol Abertawe i gynnal Cynhadledd Flynyddol gyntaf WISERD ers dechrau’r pandemig. Thema’r gynhadledd eleni oedd ‘Cymdeithas sifil a chyfranogiad: materion cydraddoldeb, hunaniaeth a chydlyniant mewn tirwedd gymdeithasol sy’n newid’, a denodd dros 50 o bapurau.

Ian Rees Jones and Mererid Hopwood, Swansea BayRoeddem yn falch iawn i groesawu dau siaradwr gwadd i ymuno â ni yn y digwyddiad eleni: yr Athro Mererid Hopwood o Brifysgol Aberystwyth a Dr Victoria Winckler, Cyfarwyddwr Sefydliad Bevan, ynghyd â Dr Steffan Evans, eu Pennaeth Polisi. Traddodwyd cyflwyniad yr Athro Hopwood: Gwrando ar ein tirwedd ieithyddol: meddwl eto am iaith ac ieithoedd, yn Gymraeg gyda chyfieithu ar y pryd. Dywed yr Athro Hopwood fod gan eiriau atgofion sy’n cyseinio, wrth iddi drafod natur weithredol a byw iaith, a’r fantais greadigol a ddaw gydag amlieithrwydd.

Roedd prif anerchiad Dr Winckler ar yr ail ddiwrnod yn ein hatgoffa am yr heriau sy’n wynebu Cymru a’r hyn y gallwch ei wneud yn eu cylch. Dywedodd Dr Winckler: “Mae Cymru’n salach, yn dlotach, yn llai addysgedig ac â chartrefi gwaeth nag o’r blaen. Y lleiaf cefnog sydd wedi colli’r mwyaf.” Rhannwyd y cyflwyniad gyda Dr Steffan Evans a gyflwynodd gipolwg diddorol ar yr astudiaeth achos prydau ysgol am ddim, a sut y llwyddodd Sefydliad Bevan i godi’r ymgyrch hon ar yr agenda gwleidyddol. Amlygodd fylchau sylweddol mewn tystiolaeth, yr angen am fwy o gydweithio wrth ddod o hyd i ddatrysiadau, a phwysigrwydd ymgysylltu’n effeithiol.

Steffan Evans, Victoria Winckler, Ian Rees Jones - WISERD Annual Conference 2022

Cynhaliwyd y digwyddiad yn yr Ysgol Reolaeth ar Gampws y Bae ac ochr yn ochr ag agenda gorlawn o brif gyflwyniadau, sesiynau cyfochrog a mwy, llenwyd yr Atriwm â 14 stondin arddangos. Roedd y rhain yn cynnwys y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru (WCIA), y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia (CADR), Cymdeithas Ymchwil Addysgol Prydain (BERA) Cymdeithas Ddysgedig Cymru (LSW) ac eraill, gan gynnwys cydweithwyr WISERD o ADR Cymru.

Dros ddau ddiwrnod, bu’r sesiynau cyfochrog yn archwilio thema’r gynhadledd drwy amrywiaeth o safbwyntiau, gan gynnwys addysg, llywodraethu, tai, iechyd, gofal cymdeithasol, iaith, hunaniaeth, cyfiawnder cymdeithasol, cysylltiadau byd-eang, y farchnad lafur a mwy. Cynhaliodd y cyd-gyfarwyddwr a’r Athro Cyswllt, Steve Smith o Brifysgol De Cymru, weithdy hefyd ar gyfer y Rhwydwaith Llesiant a gynullwyd yn ddiweddar. Roedd hwn yn trafod sut mae dadleuon academaidd a gwleidyddol am les yn berthnasol i faterion sy’n ymwneud â chyfranogiad cymdeithasol a chymdeithas sifil drwy gydol oes pobl.

Civil society book series - editors and authors, sat on bench on Swansea Bay Campus - WISERD Annual Conference 2022Hefyd lansiwyd llyfr yng Nghyfres Y Gymdeithas Sifil a Newid Cymdeithasol WISERD gyda Policy Press, sy’n chyhoeddi tri theitl newydd yn 2022 ac yn ail-lansio nifer o deitlau sydd eisoes yn bodoli mewn fformat clawr meddal. Dan arweiniad golygyddion y gyfres, yr Athro Paul Chaney, yr Athro Ian Rees Jones a’r Athro Mike Woods, roedd y digwyddiad lansio’n cynnwys sgyrsiau gan yr awduron a gyflwynodd ganfyddiadau ymchwil o’r cyfrolau a gyhoeddwyd.

Drwy gydol y digwyddiad, gwahoddwyd cynrychiolwyr i weld arddangosfa, oedd yn cynnwys ceisiadau yn y gystadleuaeth poster i fyfyrwyr PhD eleni — a noddwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol ESRC Cymru. Cyflwynodd a thrafododd y myfyrwyr eu posteri gyda’r cynrychiolwyr a’r panel adolygu. Roeddem ni’n falch i gyhoeddi’r enillwyr ar ail ddiwrnod y gynhadledd – dyfarnwyd y wobr gyntaf i Melda Lois Griffiths (Iechyd Cyhoeddus Cymru), aeth yr ail wobr i John Poole (Prifysgol Caerdydd) a Jami Abramson (Prifysgol Abertawe) dderbyniodd y drydedd wobr.

PhD Poster Competition winners - WISERD Annual Conference 2022

Gallwch weld yr oriel luniau ar ein gwefan a gweld trydar o’r digwyddiad ar Twitter trwy chwilio am #WISERD2022.


Rhannu