Cynhadledd Flynyddol WISERD 2023


Derek Walker presenting keynote in front of a screen at the WISERD Annual Conference 2023

Ar y 28ain a’r 29ain o Fehefin, daeth dros 120 o gynrychiolwyr, cyflwynwyr ac arddangoswyr ynghyd ym Mhrifysgol Bangor ar gyfer Cynhadledd Flynyddol WISERD eleni. Thema eleni yw ‘Cymdeithas sifil a llywodraethu mewn oes o argyfwng’.

Daeth cydweithwyr o bum prifysgol bartner WISERD a mwy ynghyd, a thros gyfnod o ddau ddiwrnod prysur, cyflwynwyd bron i 50 o bapurau ymchwil. Roedd sesiynau cyfochrog yn archwilio argyfyngau byd-eang a lleol, cymdeithas sifil, diwylliant a hunaniaeth, gwaith a chyfiawnder cymdeithasol, gweithio gyda chymunedau, ymchwil cyfranogol a gweithredol, a mwy.

Cyfleoedd i rwydweithio yng Nghynhadledd Flynyddol WISERD 2023

Cyfleoedd i rwydweithio yng Nghynhadledd Flynyddol WISERD 2023

Ymunodd dau brif siaradwr â ni: Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru a Paul Spicker, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Robert Gordon. Roeddem hefyd wrth ein bodd i gael cwmni Auriol Miller, Cyfarwyddwr y Sefydliad Materion Cymreig (IWA), am sesiwn agoriadol arbennig: ‘Archwilio opsiynau cyfansoddiadol Cymru yn y dyfodol’.

Mae Auriol Miller yn aelod o’r Panel Arbenigol sy’n cefnogi’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru, a sefydlwyd fel rhan o Gytundeb Cydweithredu Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru. Yn sesiwn Auriol, bu’n trafod gwaith y Comisiwn hyd yn hyn, gan gynnwys yr adroddiad interim a gyhoeddwyd y llynedd. Rhoddodd gipolwg gwerthfawr hefyd ar sut mae’r IWA yn archwilio’r dystiolaeth a gyflwynwyd i’r Comisiwn, fel rhan o brosiect a ariannwyd gan The Legal Education Foundation.

Auriol Miller, Cyfarwyddwr yr IWA

Auriol Miller, Cyfarwyddwr yr IWA

Rhoddodd Derek Walker, Comisiynydd Cenedlaethau’r Dyfodol Cymru, y cyntaf o’n prif sgyrsiau, gyda ‘Cymru sy’n gweithio i bawb’ yn Pontio, canolfan celfyddydau ac arloesi Prifysgol Bangor. Trafododd y Comisiynydd sut y gellir defnyddio Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol i fynd i’r afael â heriau allweddol, megis sicrhau mwy o amrywiaeth ymysg y rhai sy’n gwneud penderfyniadau a’n gweithlu ehangach. Hefyd, wrth sicrhau bod sefydliadau yng Nghymru yn defnyddio dulliau ataliol, integredig o ddod yn Gymru wrth-hiliol, ac i leihau tlodi ac anghydraddoldebau.

Daeth sesiwn arbennig yn canolbwyntio ar brofiadau byw plant a phobl ifanc â’r diwrnod cyntaf i ben. Rhoddodd tîm Astudio Aml-garfan Addysg WISERD gyflwyniad ar y canfyddiadau diweddaraf, wrth i ni ddathlu 10 mlynedd o’r astudiaeth unigryw, hydredol hon. Roeddem hefyd yn falch o gynnal lansiad llyfr Child Poverty in Wales , dan arweiniad y golygydd, Lori Beckett, gyda chyfraniadau gan rai o’r awduron. Mae’r llyfr, a gyhoeddwyd gan Wasg Prifysgol Cymru, yn darparu ffordd fodel o weithio i fynd i’r afael â thlodi plant ac anghydraddoldebau.

Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones a Paul Spicker, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Robert Gordon

Cyfarwyddwr WISERD, yr Athro Ian Rees Jones a Paul Spicker, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Robert Gordon

Agorodd yr ail ddiwrnod gyda’n hail brif siaradwr, Paul Spicker, Athro Emeritws ym Mhrifysgol Robert Gordon, a drafododd ‘The welfare state: a communitarian perspective’. Pwysleisiodd yr Athro Spicker bwysigrwydd perthnasoedd a nodweddion unigol y rhain. Mae’n awgrymu: “Rhwydwaith o rwydweithiau yw cymdeithas” ac mae darpariaeth lles wedi datblygu o’r rhwydweithiau, y dyletswyddau a’r confensiynau sy’n clymu cymdeithas at ei gilydd.

Yn ogystal â nifer ardderchog o siaradwyr, roeddem yn falch o gael bron i 20 o arddangoswyr yn ymuno â ni, yn amrywio o Ymchwil Data Gweinydddol Cymru a’r Ganolfan Genedlaethol ar gyfer Dulliau Ymchwil, sydd mewn partneriaeth â WISERD i ddarparu hyfforddiant, i Lywodraeth Cymru a Canolfan Materion Rhyngwladol Cymru. Ymhlith ein cydweithwyr eraill yr oeddem yn ddiolchgar i’w cael yn ymuno â ni oedd y rhai o Gyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, y Ganolfan Ymchwil Heneiddio a Dementia, Mantell Gwynedd a mwy.

Enillwyr Cystadleuaeth Poster PhD

Enillwyr Cystadleuaeth Poster PhD

Drwy gydol y digwyddiad, gwahoddwyd cynrychiolwyr hefyd i weld arddangosfa, a oedd yn cynnwys ceisiadau i gystadleuaeth poster myfyrwyr PhD eleni – a noddwyd gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru a Phartneriaeth Hyfforddiant Doethurol Cymru ESRC. Cyflwynodd y myfyrwyr eu posteri i’r cynrychiolwyr a’r panel adolygu. Roedd yn bleser gennym gyhoeddi’r enillwyr ar ail ddiwrnod y gynhadledd. Dyfarnwyd y wobr 1af i Andreas Mastrosavvas (Prifysgol Caerdydd), yr 2il wobr i Robert James (Prifysgol Caerdydd) a’r 3edd wobr i Lois Nash (Prifysgol Bangor). Fel arfer, roedd ansawdd yr ymchwil a gyflwynwyd yn eithriadol o uchel ac rydym yn ddiolchgar i bawb a gymerodd ran.


Rhannu