Tîm Astudiaeth Aml-garfan Addysg WISERD yn ymateb i ymgynghoriad Senedd Cymru


Students wearing school uniform, standing together in the lobby of a school in Gateshead, North East England. They are waiting to go to class and are bonding and laughing with each other. Some student are using their mobile phone.

Mae tîm Astudiaeth Aml-Garfan Addysg WISERD (WMCS) wedi cyflwyno ei argymhelliad ar yr hyn y mae’n credu y dylai fod yn brif flaenoriaeth i’r Pwyllgor Blynyddoedd Cynnar, Plant, Pobl Ifanc ac Addysg yn ystod y Seithfed Senedd. Bydd darparu’r safbwyntiau hyn mewn ymateb i’r ymgynghoriad diweddaraf yn helpu i lywio cynllunio strategol Senedd Cymru a’i rhaglen waith at y dyfodol.

Yn ei ymateb, mae tîm yr astudiaeth yn argymell bod y Pwyllgor yn cynnal ymchwiliadau i dri maes:

  1. Effaith deallusrwydd artiffisial (DA) cynhyrchiol mewn ysgolion
  2. Tegwch a dim gwahaniaethu yn yr ysgol
  3. Absenoldebau ysgol

Mae’r argymhellion hyn wedi’u tynnu o ymchwil ac arbenigedd tîm WMCS yn Sefydliad Ymchwil a Data Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd. Mae’r WMCS yn astudiaeth hydredol flynyddol wedi’i chynllunio i olrhain cynnydd plant a phobl ifanc sy’n cael eu magu yng Nghymru. Mae’r astudiaeth yn dilyn carfannau o ysgolion ledled Cymru ac yn gofyn cwestiynau am eu profiadau o’r ysgol yn ogystal â’u safbwyntiau ar faterion cyfoes.

Dyma a ddywedodd Dr Rhian Barrance, Cyfarwyddwr WMCS:

“Mae ein hastudiaeth yn dangos tystiolaeth gref yn y tri maes hyn. Mae absenoldebau ysgol, hiliaeth ac aflonyddu rhywiol yn yr ysgol yn bryderon hirsefydlog yng Nghymru ac mae ein canlyniadau’n dangos eu bod yn parhau i fod yn broblemus, er gwaethaf y mentrau i fynd i’r afael â nhw.”

Ychwanegodd fod yr astudiaeth wedi dangos rhai tueddiadau sy’n destun pryder o ran DA Cynhyrchiol:

“Mae gofyn i ni gynnal adolygiad ar frys ar rôl DA Cynhyrchiol mewn ysgolion. Mae cryn dipyn o drafodaeth wedi bod ynglŷn â photensial DA Cynhyrchiol i gau’r bwlch anfantais, er enghraifft, ond mae ein hymchwil yn dangos bod ganddo’r potensial i waethygu’r broblem. Mae’r sector cyfrwng Cymraeg hefyd yn wynebu heriau penodol – ac fe ddaeth i’r amlwg bod disgyblion cyfrwng Cymraeg yn fwy negyddol ar y cyfan ynglŷn â DA Cynhyrchiol.”

Darllenwch yr ymateb llawn i’r ymgynghoriad.

 

Creddiaeth delwedd: SolStock drwy iStock.


Rhannu