Athrawon WISERD yn cael eu hethol yn Gymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru


Athrawon WISERD yn cael eu hethol yn Gymrodyr i Gymdeithas Ddysgedig Cymru

Mae tri athro WISERD ymhlith y 66 Cymrawd newydd a etholwyd i Gymdeithas Ddysgedig Cymru, sy’n cynrychioli pobl uchel eu parch o fywyd academaidd a dinesig yng Nghymru a thu hwnt.

Mae’r Athro Martina Feilzer FHEA FLSW yn gyd-gyfarwyddwr WISERD, yn Athro Troseddeg a Chyfiawnder Troseddol, ac yn Ddeon Coleg y Celfyddydau, Dyniaethau a Busnes ym Mhrifysgol Bangor. Mae’r Athro Feilzer wedi datblygu’r cysyniad a’r mesur o naratifau cyhoeddus ar droseddu, gan gysylltu ymchwil, polisi ac ymarfer.

Mae’r Athro Feilzer yn aelod o Ganolfan Cymdeithas Sifil WISERD a ariennir gan ESRC sy’n ymchwilio i ‘Ffiniau, mecanweithiau ffiniau a mudo’. Mae hi hefyd yn Gyd-Gyfarwyddwr Canolfan Troseddu a Chyfiawnder Cymdeithasol Cymru ac yn ymwneud â datblygu ymchwil i’r berthynas rhwng technolegau newydd gan gynnwys technoleg adnabod wynebau ac arferion plismona yn ogystal ag agweddau’r cyhoedd tuag at y rhain.

Mae’r Athro Rhys Jones FLSW yn Athro Daearyddiaeth Ddynol ym Mhrifysgol Aberystwyth. Mae’r Athro Jones yn arbenigwr ar ddaearyddiaeth y wladwriaeth, cenedlaetholdeb, ieithoedd lleiafrifol a pholisi ymddygiad cyhoeddus.

Mae’r Athro Jones hefyd yn aelod o Ganolfan Cymdeithas Sifil WISERD a ariennir gan ESRC sy’n ymchwilio i ‘Ffurfiau newidiol ar lywodraethu a gwleidyddiaeth llawr gwlad ymwahaniaeth’.

Yr Athro Steve Smith FLSW, Athro Athroniaeth Wleidyddol a Pholisi Cymdeithasol ym Mhrifysgol De Cymru. Mae’r Athro Smith yn un o athronwyr blaenllaw y DU, ac mae ei waith ar y groesffordd rhwng theori, polisi ac ymarfer ym meysydd hawliau, cynhwysiant, cyfiawnder cymdeithasol a lles er enghraifft.

Mae’r Athro Smith hefyd wedi lansio Rhwydwaith Lles WISERD yn ddiweddar, sydd â’r nod o ymgysylltu ag ymchwilwyr lles mewn ymchwil drawsddisgyblaethol a rhyngddisgyblaethol. Mae hefyd ar gyfer ymgysylltu â llunwyr polisïau, ymarferwyr a defnyddwyr gwasanaethau, ar sail egwyddorion cyd-gynhyrchiol, sy’n cynnwys ‘lleisiau’ anacademaidd yn y broses ymchwil yn systematig.

Dywedodd yr Athro Hywel Thomas, Llywydd Cymdeithas Ddysgedig Cymru:

“Mae arbenigedd ein Cymrodyr newydd yn rhagorol. Mae cwmpas yr ymchwil yn dangos bod Cymru mewn sefyllfa dda i ymateb i’r heriau amgylcheddol, technolegol, cymdeithasol, diwylliannol, gwleidyddol ac iechyd o’n blaenau.

“Mae gallu’r Gymdeithas i ddod â’r unigolion talentog hyn at ei gilydd yn ein galluogi i gychwyn dadleuon pwysig ynghylch sut y gall Cymru, y DU a’r byd lywio’r dyfroedd cythryblus rydym ynddynt heddiw, gan gynnwys dylanwadu ar ddadleuon o’r fath.

Rwy’n falch iawn o’r ffaith bod 50% o’n Cymrodyr newydd yn fenywod. Mae hyn yn dangos ein bod yn dechrau cyflawni ein hymrwymiadau o ran cydraddoldeb, amrywiaeth a chynhwysiant. Mae lle i wella eto, wrth i ni wneud i’r Gymdeithas adlewyrchu amrywiaeth Cymru, ond mae hwn yn gam pwysig.”


Rhannu