Ymchwil WISERD – Covid-19: ymatebion polisi a goblygiadau cymdeithasol


WISERD Research - Covid-19: policy responses and social consequences report - front cover

Arweiniodd dyfodiad Covid-19 i’r DU yn gynnar yn 2020 at newidiadau cyflym a phellgyrhaeddol yn y ffordd rydyn ni’n byw ein bywydau. Arweiniodd ‘y cyfnod clo’ at gau ysgolion a daeth gweithio o gartref yn gyffredin i nifer o weithwyr. A thra bod y rhan fwyaf o siopau a busnesau wedi cau, profodd gweithwyr a gwasanaethau ‘allweddol’ bwysau digynsail.

Am y ddwy flynedd ddiwethaf, mae WISERD wedi addasu ei raglen ymchwil i fynd i’r afael â’r heriau a achosir gan ddyfodiad pandemig Covid-19. Mae’r ailgyfeiriad hwn wedi cynnwys dwy brif strategaeth. Yn gyntaf, lle bo’n berthnasol, rydym wedi defnyddio’r canfyddiadau ymchwil presennol a all gael eu defnyddio i lywio effeithiau tebygol y pandemig. Yn ail, rydym wedi ailbwrpasu prosiectau ymchwil arfaethedig i fynd i’r afael â chanlyniadau’r pandemig ar weithgareddau a sectorau allweddol.

Mae ein hadroddiad, ‘Covid-19: ymatebion polisi a chanlyniadau cymdeithasol’, yn rhoi trosolwg byr o ymchwil WISERD ar draws ystod o feysydd, gan gynnwys ar addysg, gwaith a marchnadoedd llafur, iechyd a lles. Nid yw’n syndod o ystyried bod WISERD yn gartref i Ganolfan Cymdeithas Sifil ESRC, rydym hefyd yn archwilio effaith bresennol y pandemig ar gymdeithas sifil, yn ogystal ag archwilio sut y gallai cymdeithas sifil helpu i lunio dyfodol ôl-bandemig mwy disglair. Er bod cyllid yr ESRC yn cefnogi’r rhan fwyaf o’r ymchwil a adroddwyd, rydym hefyd yn cynnwys canfyddiadau o brosiectau a ariannwyd gan y Comisiwn Ewropeaidd, yr Academi Brydeinig, Llywodraeth Cymru, Ymddiriedolaeth Leverhulme, Ymddiriedolaeth Carnegie y DU, y Sefydliad Materion Cymreig, a Sêr Cymru.

Fel bob amser, mae ein hymchwil yn defnyddio amrywiaeth o ddisgyblaethau a methodolegau. Mae’r prosiectau a drafodir yn yr adroddiad yn cael eu llywio gan safbwyntiau economaidd, cymdeithasegol, daearyddol, a pholisi cymdeithasol.

Yn fethodolegol, ar ben y dadansoddiad eilaidd helaeth o data gweinyddol, y defnydd cymhleth o fodelu daearyddol ac arolygon hydredol, rydym wedi cynnal dadansoddiad polisi a phrosiectau ansoddol ar raddfa lai gyda grwpiau cymunedol.

Er mwyn gwneud y mwyaf o ddefnyddioldeb ein hymchwil ar gyfer llywio heriau presennol a phosibiliadau’r dyfodol, rydym wedi cymryd rhan mewn deialog barhaus trwy gydol y pandemig gydag ystod eang o lunwyr polisi, gweithwyr proffesiynol a rhanddeiliaid cymdeithas sifil.

Oherwydd yr angen i ledaenu canfyddiadau’n gyflym, mae llawer o’r ffynonellau a ddyfynnir yn ddeunyddiau ffeithlun, adroddiadau a blogiau, gan fod erthyglau a adolygir gan gyfoedion yn cymryd amser hir i’w cyhoeddi. Rydym hefyd yn adrodd ar ymchwil sydd ar y gweill ar hyn o bryd, ac y bydd canfyddiadau sy’n berthnasol i Covid ar gael yn y dyfodol.

Darllenwch yr adroddiad.


Share