Cyflwyno gwaith ymchwil WISERD i Weinidog Llywodraeth Cymru


Ymwelodd Sarah Murphy AS a Gweinidog Llywodraeth Cymru dros Iechyd Meddwl a Lles â sbarc|spark i gael cipolwg ar yr ymchwil ddiweddaraf. Bu ymchwilwyr WISERD yn cyflwyno canfyddiadau ar brofiadau rhieni plant niwrowahanol o’r broses gwahardd o’r ysgol a sut y gallwn ddefnyddio data gweinyddol i wella canlyniadau addysg ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol.

Bywydau wedi’u Gwahardd

Bu Jemma Bridgeman yn rhannu canfyddiadau allweddol o’r prosiect Bywydau wedi’u Gwahardd, a geisiodd ddeall y broses gwahardd o’r ysgol a’r effaith y mae hyn yn ei gael ar ddisgyblion, rhieni, a gweithwyr proffesiynol ar draws y DU.

Bu Jemma’n cynnal cyfweliadau gyda rhieni i wrando ar eu profiadau o wahardd o’r ysgol yng Nghymru. Roedd gan y rhan fwyaf o’r rhai a gymerodd rhan, blant ag anhwylder y sbectrwm awtistig a/neu anhwylder diffyg canolbwyntio a gorfywiogrwydd (ADHD).

Er bod y rhieni’n obeithiol am yr Anghenion Dysgu Ychwanegol newydd, roedd y canlyniadau’n dangos bod y plant wedi cael profiadau negyddol yn yr ysgol, ac o ganlyniad i hyn wedi arwain at gael eu gwahardd o’r ysgol.

Dywedodd Jemma: “Dywedodd un o’r rhieni fod ei mab, sydd ag ADHD, yn derbyn cymorth yn yr ysgol gynradd ond nid yn yr ysgol uwchradd. Bu’n colli mwyfwy o ddiddordeb yn yr ysgol oherwydd doedd e ddim yn cael y gefnogaeth roedd ei hangen arno i fod yn llwyddiannus mewn addysg. Cafodd ei wahardd yn barhaol o’r ysgol yn ddiweddar. Roedd hi’n gallu deall pam ei fod wedi cael ei wahardd o’r ysgol, ond doedd hi ddim yn deall pam nad oedd unrhyw gymorth wedi cael ei roi ar waith a fyddai wedi atal y gwaharddiad.’’

Pwysleisiodd y Gweinidog bod parhau i gael trafodaeth gydag ymarferwyr addysgol yn bwysig iawn, a thynnodd sylw hefyd at y rhan bwysig sydd gan nyrsys ysgol a chwnselwyr yn cefnogi plant niwrowahanol a’u hatal rhag cael eu gwahardd o’r ysgol.

Dywedodd Jemma: “Roedd y cyfarfod yn tynnu sylw at yr angen i gael rhagor o drafodaethau rhwng ymchwilwyr a gweinidogion y llywodraeth i drafod ymchwil arloesol ac, yn achos fy ngwaith ymchwil i, ymhelaethu llais y rhieni sydd â phlant niwrowahanol.’’

Canlyniadau addysgol ar gyfer plant ag anghenion dysgu ychwanegol

Mae Jennifer Keating yn Gydymaith Ymchwil yn Labordy Data Addysg WISERD, ac yn rhan o Ymchwil Data Gweinyddol Cymru. Mae gwaith ymchwil Jennifer yn defnyddio data gweinyddol o gronfa ddata Cyswllt Diogel Gwybodaeth Anhysbys (SAIL) i ddeall a gwella canlyniadau addysgol ar gyfer plant sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.

Roedd canfyddiadau ymchwil Jennifer yn ystyried y cysylltiad rhwng data addysg a data’r cyfrifiad er mwyn edrych a oes yna batrymau wrth ganfod anghenion addysgol arbennig neu anghenion dysgu ychwanegol ar draws nodweddion unigol y plant, nodweddion yr aelwyd, neu nodweddion eu hysgol.

Meddai Jennifer: “Mae’r canlyniadau’n dangos bod nodweddion yr aelwyd a gasglwyd gan y Cyfrifiad, gan gynnwys cymwysterau’r rhieni, strwythur y teulu, gweithgareddau economaidd, a graddfa gymdeithasol, yn dylanwadu ar ganfod anghenion addysgol arbennig, a nodweddion unigol (megis rhywedd a phresenoldeb). Roedd y patrymau hyn hefyd yn amrywio mewn gwahanol fathau o anghenion addysgol arbennig ac anghenion dysgu ychwanegol, sy’n dangos pwysigrwydd deall yr anghenion, ac addasu’r ymyriadau ar gyfer disgyblion unigol.

Bu Jennifer yn trafod cynlluniau’r tîm ar gyfer y dyfodol i gysylltu addysg plant a data iechyd i ymchwilio i sut mae plant â chyflyrau iechyd yn cael eu cefnogi yn yr ysgol. Fe wnaeth y Gweinidog gydnabod y gallai gwneud asesiad effeithlon, cael diagnosis a phrosesau cymorth ar gyfer plant â chyflyrau iechyd, hefyd wella canlyniadau eraill i blant, gan gynnwys eu hiechyd meddwl.

Meddai Dr Katy Huxley, Cymrawd Ymchwil a hwylusydd y digwyddiad:

Pleser mawr oedd croesawu’r Gweinidog, a chael hwyluso cyfnewid gwybodaeth a dysgu rhwng ymchwilwyr sy’n gweithio ym Mharc y Gwyddorau Cymdeithasol (SPARC). Roedd y Gweinidog yn hynod frwdfrydig ac yn gyffrous i glywed am yr ymchwil sy’n digwydd yma, ac mae’n bwysig bod ein hymchwilwyr yn ymgysylltu â’r llywodraeth, yn ogystal ag eraill. Ein gobaith yw parhau i ymgysylltu a dylanwadu’n gadarnhaol ar wasanaethau a pholisi er budd ein cymdeithas.


Share