Mae ymchwilwyr WISERD yn cyflwyno eu canfyddiadau am ansawdd swyddi athrawon


NEU Conference 2023 entrance

National Education Union (NEU) logo

Cyflwynodd Katy Huxley, Alan Felstead (WISERD) a Francis Green (UCL) ganlyniadau cyntaf eu hymchwil ar newid yn ansawdd swyddi athrawon mewn digwyddiad ymylol yng nghynhadledd flynyddol yr Undeb Addysg Cenedlaethol (NEU) yn Harrogate heddiw (3 Ebrill 2023). Mae’r dystiolaeth yn seiliedig ar brosiect ymchwil a gynhaliwyd gan WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd ac UCL.

Mae’r canlyniadau’n seiliedig ar ddwy set o ddata cyflenwol:

(1) cwis ar ansawdd y swydd a lenwyd gan dros 100,000 o weithwyr y naill ochr i’r pandemig; a

(2) arolwg o aelodau’r NEU a ddenodd 15,500 o ymatebion.

 

Mae’r canfyddiadau’n dangos:

  • Nad yw ansawdd swyddi athrawon wedi newid rhyw lawer y naill ochr i’r pandemig. Fodd bynnag, mae gweithwyr proffesiynol eraill wedi profi gwelliannau. Mae’r bwlch rhwng y ddau grŵp wedi ehangu. Er bod cyfran yr athrawon sy’n dweud eu bod yn gweithio ar gyflymder uchel iawn neu i derfynau amser tynn iawn yn aml wedi aros yn uchel iawn, heb fawr o newid, ond mae gweithwyr proffesiynol eraill wedi profi gostyngiad sylweddol wrth fesur eu dwysedd gwaith.
  • Yn yr un modd, mae’r bwlch wedi ehangu rhwng athrawon a gweithwyr proffesiynol eraill o ran eu rheolaeth dros oriau gwaith. Mae wedi dod yn haws i weithwyr proffesiynol eraill benderfynu pryd i ddechrau a rhoi’r gorau i weithio neu i gymryd amser i ffwrdd ar gyfer argyfyngau, ond ychydig o newid sydd wedi bod i athrawon.
  • Mae ansawdd swyddi athrawon yn waeth mewn ysgolion lle mae gan athrawon ddisgwyliad uchel y bydd yr ysgol yn cael ei harolygu o fewn y flwyddyn. O ganlyniad, dywedodd cyfran uwch o athrawon a oedd yn meddwl bod arolygiad yn debygol iawn o gael ei gynnal o fewn y flwyddyn eu bod bob amser yn teimlo wedi blino’n lân ar ddiwedd y diwrnod gwaith, o gymharu ag athrawon a oedd yn meddwl bod arolygiad yn llai tebygol.
  • Yn yr un modd, dywedodd cyfrannau uwch o athrawon a oedd yn gweithio mewn ysgolion â chanran uchel o ddisgyblion yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim eu bod yn dod adref o’r gwaith wedi blino’n lân.

Mae briff ar gyfer y digwyddiad ar gael ar-lein. Bydd canfyddiadau llawn yr ymchwil yn cael eu cyhoeddi mewn adroddiad yn yr haf.

 

Credyd delwedd: Katy Huxley


Rhannu