Yn gynnar ym mis Tachwedd 2022, roeddem yn falch iawn o groesawu’r Athro Charles Sabel o Ysgol y Gyfraith Columbia fel ysgolhaig gwadd rhyngwladol WISERD. Ymunodd yr Athro Sabel â ni yn sparcIspark am wythnos o ddigwyddiadau a thrafodaethau am ei waith ar lywodraethu arbrofol.
Dechreuodd yr ymweliad gyda gweithdy dwys a oedd yn ymdrin â “Pholisi Diwydiannol ar gyfer y Newid yn yr Hinsawdd a Gwasanaethau Pwrpasol mewn Lles Cymdeithasol – Dau argyfwng dysgu dan ansicrwydd a chynnydd math newydd o sefydliad”. Rhoddodd yr Athro Sabel drosolwg o sail ddamcaniaethol llywodraethu arbrofol cyn amlinellu sut i’w gymhwyso a’i berthnasedd i ddau faes polisi allweddol: newid yn yr hinsawdd a gwasanaethau lles.
Gan ddefnyddio astudiaethau achos o wahanol wledydd, esboniodd mewn ffordd fywiog y berthynas rhwng arloesedd arbrofol yn y ffin a ffurfiau lleol o arbrofol ar sail lleoedd. Denodd y gweithdy amrywiaeth eang o bobl o’r sectorau Prifysgol a pholisi a gymerodd ran mewn trafodaeth fywiog ac egnïol am y materion a godwyd a’u perthnasedd i ddatblygiadau mewn lleoliadau datganoledig ac ar draws gwahanol sectorau polisi economaidd a chymdeithasol.
Yn dilyn hyn, traddododd yr Athro Sabel ddarlith gyhoeddus yn awditoriwm SparcIspark am ei lyfr newydd gyda David Victor o’r enw ‘Fixing the Climate: Strategies for an Uncertain World’. Wrth siarad â chynulleidfa fawr o ystod eang o sefydliadau academaidd, polisi, a thrydydd sector, bu’n gwrthgyferbynnu llwyddiannau a methiannau yn yr arena polisi hinsawdd i ddatblygu dadl y dylai’r trawsnewidiadau radical sydd eu hangen i fynd i’r afael â sero net fod yn seiliedig ar sefydliad arbrofol a thrafod arbrofol. Yn wyneb ansicrwydd, mae manteision y fath ddull i’w cael yn (i) adolygiad gan gymheiriaid sy’n lleihau strwythurau hierarchaidd, (ii) symudiad ymhlith arbenigwyr tuag at alluogi trafod, (iii) dolenni adborth rhinweddol sy’n arwain at ddiwygio pellach a (iv) gweithwyr rheng flaen sy’n arwain ac yn ysgogi newid.
Gan dynnu ar enghreifftiau o lwyddiant a methiant o Brotocol Montreal i Gytundeb Paris, cyflwynodd achos dros bosibiliadau sefydliadau sy’n datblygu lle mae heriau lefel y ddaear yn pennu penderfyniadau cywir a wneir ar lefelau uwch sydd, yn eu tro, yn dylanwadu ar amodau ar lawr gwlad., Yn yr ystyr hon, nid ydynt o’r brig i lawr nac o’r gwaelod i fyny. Ond yn wahanol i atebion sy’n cael eu harwain gan y farchnad neo-ryddfrydol, caiff y broses benderfynu ddatganoledig hon ei llywio gan brosesau trafod.
Gan ehangu ar y thema hon, a thynnu ar bragmatiaeth John Dewey, dadleuodd fod arbrofoliaeth yn seiliedig ar gyfnewid rhesymau a all newid argyhoeddiadau a dewisiadau trwy drafod cyfathrebol. Felly mae angen cysylltu datblygiadau arloesol technegol ar y ffin (er enghraifft, ceir trydan) ag arloesi ar waith (er enghraifft, integreiddio ynni adnewyddadwy i’r grid) gyda blaenoriaeth yn cael ei roi i effeithiau newid ar gymunedau lleol. Cafwyd trafodaeth fywiog ymhlith y gynulleidfa ynghylch materion fel potensial COP27 i fod yn sbardun dros newid, cymhwyso syniadau Dewey i feysydd polisi eraill, gallu gwledydd bach i chwarae rhan mewn newid, ac i ba raddau yr oedd optimistiaeth yn bosibl o dan yr amgylchiadau presennol.
Yn olaf, cyfarfu’r Athro Sabel, ynghyd â’r Athro Kevin Morgan a’r Athro Ian Rees Jones, ag aelodau o’r Comisiwn Annibynnol ar Ddyfodol Cyfansoddiadol Cymru. Cylch gwaith y comisiwn yw “ystyried a datblygu opsiynau i ddiwygio’n sylfaenol strwythurau cyfansoddiadol y Deyrnas Unedig…ac ystyried a datblygu’r holl brif opsiynau blaengar i gryfhau democratiaeth Cymru a sicrhau gwelliannau i bobl Cymru”. Cafodd ei groesawu gan y cyd-gadeiryddion, Yr Athro Laura McAllister a’r Gwir Barchedig a’r Gwir Anrhydeddus Dr Rowan Williams, a arweiniodd drafodaeth a oedd yn canolbwyntio ar waith yr Athro Sabel am Lywodraethu Gostyngedig. Gan dynnu ar ei waith am ddiwygiadau addysgol yn y Ffindir, roedd y drafodaeth yn amrywio o ddiwygio etholiadol i newid polisi mewn gwahanol sectorau a’r potensial i Gymru adeiladu ffurf fwy agored ac ymgynghorol ar lywodraethu ar sail rhai o’r syniadau ac enghreifftiau ymarferol a roddodd.
Bu’r ymweliad yn gryn lwyddiant a sbardunodd nifer o drafodaethau diddorol ac ysgogol ymhlith cydweithwyr WISERD a sparcIspark. Y gobaith yw y bydd y cysylltiad parhaus â’r Athro Sabel a’i raglen ymchwil yn arwain at gydweithio cynhyrchiol yn y dyfodol yn ysbryd llywodraethu arbrofol.