WISERD yn cyhoeddi ymchwil newydd ar gymdeithas sifil, lles a llywodraethu yn Tsieina


 

Dros y tair blynedd ddiwethaf, mae WISERD wedi bod yn rhan o’r cynllun rhyngwladol llwyddiannus Uwch Gymrodoriaeth Newton gydag Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol Tsieina (CASS)  a ariannwyd gan yr Academi Brydeinig.

Arweiniwyd y cynllun gan yr Athro Sin Yi Cheung (Ysgol y Gwyddorau Cymdeithasol, Prifysgol Caerdydd), Dr Xiao Lin (Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol Tsieina, Beijing), yr Athro Paul Cheney (Cyd-Gyfarwyddwr WISERD, Prifysgol Caerdydd), yr Athro Ralph Fevre (WISERD, Prifysgol Caerdydd), a’r Athro Susan Baker (Cyfarwyddwr y Sefydliad Ymchwil Mannau Cynaliadwy, Prifysgol Caerdydd).

Mae ein cyhoeddiad mynediad agored newydd yn cynnig mewnwelediad manwl a gwreiddiol i natur newidiol cymdeithas sifil a darpariaeth les yn strwythurau llywodraethu datblygol y Tsieina fodern. Mae’n cynnwys yr erthyglau ymchwil canlynol gan ysgolheigion blaenllaw CASS:

‘Reconciling the People’s Will with Central Government’s Plan: Exploring the pursuit of local governance in today’s gan Liu Yiran. Yn sgil diwygiadau Pwyllgor Canolog 18fed a 19eg Plaid Gomiwnyddol Tsieina (CPC) ar ‘lywodraethu cymdeithasol’, mae’r astudiaeth hon yn archwilio datblygiadau dilynol mewn llywodraethu lleol yn Tsieina. Mae hyn yn ffocws priodol oherwydd mae ymchwil gynharach wedi tueddu i hepgor yr heriau y mae llywodraeth leol yn eu hwynebu o ran cydbwyso gofynion llywodraeth genedlaethol lefel uwch ag anghenion ac ewyllys cymdeithas. Yn seiliedig ar astudiaeth achos Rhanbarth Xicheng, Beijing, inter alia, mae’r ymchwil hon yn canfod nad yw ymdrechion i gael llywodraeth leol yn llwyr ddibynnol ar gynllun ‘mawr’ llywodraeth ganolog, ond yn hytrach rôl gyfryngol swyddogion llywodraeth leol.

‘State-made Society? Exploring the “creation of society” and the provision of public services at the community level in contemporary China’ gan Shi Yuntong. Mae’r erthygl hon yn esbonio’r dybiaeth fod hunan-drefniant preswylwyr mewn cymunedau trefol yn llwybr addawol ar gyfer creu bywyd cysylltiadol yn Tsieina; lleoliad lle, hyd yma, mae rhai ymchwilwyr wedi honni nad yw “cymdeithas” yn bodoli. Fodd bynnag, mewn blynyddoedd diweddar, mae diwygiadau ochr-gyflenwi a gyflawnwyd gan lywodraeth leol (yn arbennig mewn darpariaethau gwasanaeth cyhoeddus mewn cymunedau trefol) yn ymddangos fel petaent wedi agor llwybr newydd a esgeuluswyd hyd yn hyn. Gan ddadansoddi’r cysyniad, y cymhelliannau, y tactegau ac effeithiau “cymdeithas a grëwyd gan wladwriaeth”, mae’r erthygl hon yn nodi, er bod gwella bywyd cysylltiadol yn ganlyniad anfwriadol, ei bod wedi arwain at gyd-rymuso o safbwynt y wladwriaeth a chymdeithas.

‘Structural Differentiation: Social organizations in contemporary Chinese community governance’ gan Xiang Jinglin. Yn erbyn cefndir o wrthgyferbyniad rhwng datblygiad cyflym sefydliadau cymdeithasol (SCau) ac effaith gyfyngedig eu cyfraniad at lywodraethu cymunedol, mae’r papur amserol hwn yn trafod y berthynas rhwng sefydliadau cymdeithasol a llywodraethu cymunedol. Mae’n canolbwyntio ar y broblem o gyfateb y cyflenwad i’r galw mewn perthynas â sefydliadau cymdeithasol a llywodraethu cymunedol; ac yn dadansoddi’r ffactorau allweddol sy’n gyfrifol am y cyfatebiad annigonol hwn yn ogystal â datrysiadau posibl.

‘Pushing the Boundaries: Exploring the action space of an NGO in the context of devolution in urban China’ gan Liang Chen. Mae’r erthygl hon yn archwilio sut, mewn blynyddoedd diweddar, mae diwygiadau llywodraethu yn Tsieina wedi arwain at newidiadau sylweddol yn rôl cyrff anllywodraethol. I gynnig mewnwelediad pellach i’r newid hwn, mae’r erthygl graff hon yn cyflwyno astudiaeth achos o sefydliad cymdeithasol mewn dinas yn Ne Jiangsu. Mae’n datgelu sut mae ffurfiau llywodraethu newydd datblygol wedi ehangu gofod gweithredu cyrff anllywodraethol a rhoi ymreolaeth gynyddol iddynt yn yr amgylchedd sefydliadol sydd ohoni. Yn gyffredinol, mae’r canfyddiadau’n dangos sut, mewn amgylchedd sefydliadol a ddominyddir gan lywodraeth, y mae datganoli pŵer yn cael effeithiau cadarnhaol penodol ar ddatblygiad cyrff anllywodraethol.

Lawrlwythwch y cyhoeddiad llawn:
New Perspectives on Welfare and Governance in Contemporary China

Mae ‘Social Policy and Local Governance: Developments in Europe and China’ (t.440) (社会政策与地方治理:欧洲和中国的经验) yn gyhoeddiad iaith Tsieineaidd newydd arall sy’n deillio o’r prosiect. Cyhoeddwyd gan Social Science Academic Press, Beijing (2019). Gall penodau unigol gan Chaney, Cheung, Fevre, Baker, a chydweithwyr eraill yng Nghaerdydd a CASS gael eu lawrlwytho am ddim yma .
Bydd ymchwil gymdeithasol sifil WISERD yn Tsieina yn parhau gyda phrosiect newydd sydd ar ddod, a ariennir gan ESRC ac a arweinir gan yr Athro Paul  Chaney – darllenwch fwy.

Newyddion cysylltiedig arall:

CASS visit fosters international research collaboration
Civil Society research presented to leading Chinese institutions
Chinese visiting international fellows at WISERD
Civil society, human rights and religious freedom in the People’s Republic of China: analysis of CSOs’ Universal Periodic Review discourse
Funding success for international collaborations


Rhannu