Ymchwil newydd yn taflu goleuni ar ddewisiadau pwnc ôl-16 a llwyddiant disgyblion yng Nghymru


Mae ymchwil newydd gan dîm ADR Cymru, sydd wedi’i leoli yn WISERD ym Mhrifysgol Caerdydd, wedi datgelu cipolygon pwysig ar y ffordd mae disgyblion yng Nghymru’n mynd ati i ddewis pynciau ôl-16, a beth sy’n ysgogi eu llwyddiant academaidd. 

Gan dynnu ar ddata gan dros 8,000 o ddisgyblion chweched dosbarth, bu’r ymchwil yn ystyried cysylltiadau rhwng cyrhaeddiad TGAU a dewisiadau a chanlyniadau pwnc Uwch Gyfrannol (UG – blwyddyn gyntaf Safon Uwch). Mae’r canfyddiadau’n datgelu bod cyflawniad blaenorol yn chwarae rhan sylweddol, ac weithiau annisgwyl wrth bennu’r pynciau mae disgyblion yn eu dewis a pha mor dda maen nhw’n perfformio. 

Yn ôl y disgwyl, roedd disgyblion a gyflawnodd graddau A neu A* mewn gwyddoniaeth TGAU yn llawer mwy tebygol o barhau gyda phynciau gwyddoniaeth ar lefel UG ac o ennill graddau uchel. Fodd bynnag, nododd yr ymchwil batrwm llai disgwyliedig hefyd: roedd perfformiad cryf mewn gwyddoniaeth TGAU hefyd yn rhagfynegydd pwerus o lwyddiant mewn pynciau ar wahân i wyddoniaeth gan gynnwys hanes a llenyddiaeth Saesneg. 

Mae’r canfyddiadau hyn, a gyhoeddwyd yn y British Journal of Educational Studies, yn herio hen rhagdybiaethau am uchafiaeth mathemateg a Saesneg fel sylfeini allweddol ar gyfer cynnydd academaidd a chyflogadwyedd. 

Arweiniwyd yr ymchwil gan Dr Sophie Bartlett, ymchwilydd ADR Cymru yn WISERD, a ddywedodd:  

Er bod gwyddoniaeth wedi cael cydnabyddiaeth ers tro byd fel pwnc ysgol craidd, nid yw bob amser wedi cael yr un flaenoriaeth â mathemateg a Saesneg, ac yn aml mae’r cyfiawnhad mewn termau economaidd yn bennaf fel llwybr i greu gwyddonwyr y dyfodol. Mae’r canfyddiadau hyn yn dangos bod gan lwyddiant mewn gwyddoniaeth werth academaidd llawer ehangach, gan ragweld llwyddiant hyd yn oed ym mhynciau’r dyniaethau. 

Datgelodd y canlyniadau hefyd ddarlun cynnil o rôl hyfedredd Cymraeg/Saesneg TGAU o ran dilyniant mewn gwyddoniaeth ôl-16. Er bod disgyblion â chyrhaeddiad uchel mewn TGAU Cymraeg/Saesneg yn llai tebygol o ddewis ffiseg ar lefel UG, roedd y rhai a wnaeth hynny’n fwy tebygol o sicrhau graddau da. Mewn cyferbyniad, roedd cyrhaeddiad uchel mewn TGAU Cymraeg/Saesneg yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddewis a chyflawni’n dda mewn bioleg a chemeg ar lefel UG. 

Yn erthygl ddiweddaraf Dr Bartlett yn yr International Journal of Science Education, trafodir y patrymau hyn o ran natur amrywiol y gwyddorau: mae bioleg a chemeg yn dibynnu’n helaeth ar derminoleg gymhleth ac esboniadau ysgrifenedig estynedig, tra bo ffiseg wedi gwreiddio’n gryfach mewn cynrychiolaeth fathemategol. Gall y gwahaniaethau hyn gael dylanwad cynnil ar ganfyddiad disgyblion o bynciau, ac a ydyn nhw’n ystyried eu bod yn cyd-fynd â’u cryfderau a’u hunaniaeth academaidd. 

Mae’r ymchwil hefyd yn cynnig cipolwg amserol ar bolisi addysg yng Nghymru, yn enwedig wrth i ddyfodol TGAU gwyddoniaeth gael ei adolygu. Un ffocws allweddol yw rôl ‘gwyddoniaeth driphlyg’ — llwybr lle mae disgyblion yn dilyn TGAU ar wahân mewn bioleg, cemeg a ffiseg. 

Er bod astudiaethau blaenorol wedi dangos bod disgyblion gwyddoniaeth driphlyg yn fwy tebygol o barhau i astudio gwyddoniaeth ar ôl-16, mae’r ymchwil newydd yn ychwanegu naws bwysig: er bod gwyddoniaeth driphlyg yn cynyddu’r tebygolrwydd o ddewis pynciau gwyddoniaeth ar lefel UG, nid oes cynnydd amlwg yn y siawns o ennill graddau A-C. 

Mae hyn yn codi cwestiwn pwysig a yw gwyddoniaeth driphlyg yn gwella parodrwydd disgyblion ar gyfer astudio pellach, neu a yw’n gweithredu’n bennaf fel arwydd o addasrwydd. 

Er mai dyma’r ymchwil gyntaf o’i math yng Nghymru, mae’r canfyddiadau’n ymestyn y tu hwnt i gyd-destun Cymru. Wrth i lawer o wledydd fynd i’r afael â chwestiynau am gynllunio cwricwlwm, mae’r canfyddiadau hyn yn cynnig cipolwg gronynnol ar rôl unigol cyrhaeddiad blaenorol mewn mathemateg, gwyddoniaeth, a Chymraeg/Saesneg mewn canlyniadau addysgol diweddarach, gyda goblygiadau o ran y ffordd orau i ddisgyblion baratoi i gynyddu eu siawns o lwyddiant academaidd yn ddiweddarach. 

Rhagor o wybodaeth 

 

Credyd delwedd: AnnaStills trwy iStock.


Rhannu