Mae astudiaeth ymchwil empirig gan Gyd-Gyfarwyddwr WISERD, yr Athro Professor Paul Chaney, Dr Christala Sophocleous a Daniel Wincott,yn cyflwyno model damcaniaethol newydd ar gyfer dadansoddi’r ffordd y mae cymdeithas sifil yn rhoi cymorth lles i ddinasyddion mewn gwledydd datganoledig.
Yn rhyngwladol, systemau lles datganoledig yw’r drefn fel arfer. Mae’r ymchwil newydd hon yn ceisio archwilio ehangder y ffactorau yn systematig– gan gynnwys ymddiriedaeth – sy’n llywio’r ffordd y mae’r trydydd sector yn darparu lles ar lefel ddatganoledig.
Mae ymchwil newydd WISERD yn dod â dwy elfen o ddamcaniaeth gymdeithasol a fframwaith glasurol Lester Salamon a Helmut Anheier ar ddatblygu seilwaith dinesig ynghyd. Drwy wneud hynny mae’n cynhyrchu model dadansoddol y gellir ei gymhwyso mewn ymchwil cymdeithas sifil ryngwladol yn y dyfodol.
Mae’r model yn seiliedig ar ddadansoddiad o adroddiadau blynyddol Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru – a’i ragflaenwyr, yn dyddio’n ôl i’r 1930au.
.
Yn ogystal â chynnig dull dadansoddol newydd ar gyfer astudio cymdeithas sifil, mae’r ymchwil hefyd yn datgelu naratif coll o sut y gwnaeth datganoli gweinyddol y sector gwirfoddol yng Nghymru yn y 1940au ragflaenu datganoli gwleidyddol ym 1999.
Cynhaliwyd yr ymchwil hon yn rhan o: ‘Ymddiriedolaeth, hawliau dynol a chymdeithas sifil Mewn Economïau Lles Cymysg‘, prosiect yng nghanolfan Ymchwil Cymdeithas Sifil Wiserd
Darllenwch y papur a gaiff ei gyhoeddi cyn hir: Chaney, P., Sophocleous, C. ac Wincott, D. (i ddod yn 2020), ‘Archwilio’r gwaith o ganoli gweinyddiaeth a darpariaeth lles y trydydd sector mewn gwladwriaethau ffederal ac unol: Tystiolaeth ac adeiladu theori o’r DU’, Astudiaethau Rhanbarthol a Ffederal, Routledge T&F.