Ymchwilydd WISERD yn ennill medal Cymdeithas Ddysgedig Cymru


Mae Dr Stuart Fox wedi ennill medal Dillwyn ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol gan Gymdeithas Ddysgedig Cymru. Maen un o dri ymchwilydd o Brifysgol Caerdydd i dderbyn gwobr am gydnabyddiaeth o waith ymchwil rhagorol ar ddechrau gyrfa.

Stuart Fox holding his LSW Dillwyn medal

Dyfarnwyd y medalau mewn seremoni i ddathlu llwyddiannau’r byd academaidd ar 22 Mai yng Ngholeg Brenhinol Cerdd a Drama Cymru yng Nghaerdydd. Crëwyd y medalau i ysbrydoli a chydnabod llwyddiant etifeddiaeth Cymru, wrth ddathlu ymchwilwyr rhagorol yr oes sydd ohoni.

Dyfarnwyd y fedal i Dr Fox am ei astudiaeth o agweddau ac ymddygiad gwleidyddol a dinesig sy’n defnyddio arolygon cymdeithasol a dulliau ymchwil meintiol. Mae ei waith wedi ystyried ymgysylltu gwleidyddol ymhlith pobl ifanc, yn benodol yn ystod Refferendwm yr UE a Brexit, ac etholiad cyffredinol 2017.

 

 

Mae ei waith diweddaraf hefyd wedi edrych ar wirfoddoli ymysg pobl ifanc ac, yn benodol, a allai hyn helpu i annog mwy o bobl ifanc i ymddiddori mewn gwleidyddiaeth a lleihau anghydraddoldeb yn y ganran sy’n pleidleisio. Mae hefyd wedi gweithio gyda Grŵp Gorffen a Gorchwyl Llywodraeth Cymru ar gyllid gwirfoddoli.

Wrth dderbyn y wobr, dywedodd Dr Fox: “Gall bywyd ymchwilydd ar ddechrau ei yrfa fod yn hynod heriol ac anwadal, ac mae mor braf gweld gwaith mor galed yn cael cydnabyddiaeth. Rwy’n ddiolchgar dros ben i fy nghydweithwyr am fy enwebu a chynnig cymorth ac arweiniad amhrisiadwy drwy gydol fy ngyrfa academaidd. Rwy’n edrych ymlaen at barhau i weithio gyda nhw er mwyn helpu i ddatblygu’r genhedlaeth nesaf o ymchwilwyr cymdeithasol yng Nghymru.”


Share