Mae’r Athro Emeritws Alma Harris, FAcSS, FLSW, FRSA wedi dal swyddi fe Athro ym Mhrifysgol Warwick, Coleg Prifysgol Llundain, Prifysgol Maleia, Prifysgol Caerfaddon, a Phrifysgol Abertawe. Mae’n adnabyddus yn rhyngwladol am ei hymchwil a’i hysgrifennu ar arweinyddiaeth addysgol, polisi addysg a gwella ysgolion. Yn 2009-2012, bu’n Uwch-gynghorydd Polisi i Lywodraeth Cymru gan gynorthwyo gyda’r broses o ddiwygio’r system gyfan. Cydarweiniodd y rhaglen Cymunedau Dysgu Proffesiynol (CDP) genedlaethol ac arweiniodd ar ddatblygu a gweithredu cymhwyster meistr ar gyfer pob athro newydd gymhwyso yng Nghymru. Ers 2009, mae wedi gweithio i Fanc y Byd gan gyfrannu at raglenni datblygu ac ymchwil sydd â’r nod o gefnogi ysgolion mewn cyd-destunau heriol yn Rwsia. Mae’r Athro Emeritws Harris yn Athro Gwadd yn Ysgol Economeg Uwch Moscow a Phrifysgol Southampton. Mae’n Uwch-gymrawd Ymchwil ym Mhrifysgol Addysg Hong Kong. Yr Athro Emeritws Harris yw Llywydd y Gyngres Ryngwladol ar gyfer Effeithiolrwydd Ysgolion a Gwella Ysgolion (ICSEI), sy’n sefydliad sy’n ymroi i wella ansawdd a thegwch mewn addysg. Ym mis Ionawr 2016, derbyniodd wobr oes er anrhydedd ICSEI. Yn 2016, fe’i penodwyd i Gyngor Rhyngwladol y Cynghorwyr Addysg (ICEA) i gynnig cyngor polisi i Brif Weinidog a Dirprwy Brif Weinidog yr Alban. Mae’n Gymrawd Academi’r Gwyddorau Cymdeithasol, yn Gymrawd Cymdeithas Ddysgedig Cymru, ac yn Gymrawd Cymdeithas Frenhinol y Celfyddydau.

Alma Harris Bio