Diwygiwyd: Rhagfyr 2017
1. Cyd-destun
Mae Mesur y Gymraeg yn rhoi statws swyddogol i’r Gymraeg yng Nghymru ac yn deddfu na ddylid ei thrin yn llai ffafriol na’r Saesneg.
Ar hyn o bryd mae pob corff cyhoeddus yng Nghymru yn ddarostyngedig i Gynlluniau Iaith Gymraeg, ond cyn hir bydd Safonau’r Gymraeg yn eu disodli (Ebrill 2018). Mae gan y prifysgolion partner sy’n ffurfio WISERD Gynlluniau Iaith Gymraeg unigol eu hunain, sy’n datgan pa wasanaethau fydd yn cael eu darparu drwy gyfrwng y Gymraeg a sut a phryd y byddant ar gael. Mae WISERD yn gweithredu o fewn fframwaith y cynlluniau hyn ac mae’n ddarostyngedig i Gynllun Iaith Gymraeg presennol y gwahanol brifysgolion partner.
2. Nodau
Gweithreda WISERD Polisi Iaith Gymraeg dyluniwyd er mwyn:
- hybu ymwybyddiaeth o fewn WISERD am egwyddorion Mesur y Gymraeg a’r Safonau a fydd yn dilyn
- amlygu’r ymrwymiadau sydd wedi eu gwneud gan y sefydliadau partner yn eu Cynlluniau Iaith
- pennu mesurau ar gyfer gweithredu’r Cynlluniau Iaith yng ngweithgareddau WISERD
- annog arferion gorau o ran defnydd o’r Gymraeg wrth gyfathrebu â sefydliadau eraill a’r cyhoedd yng Nghymru
3. Gweithgareddau WISERD
Menter ar y cyd rhwng pum sefydliad yw WISERD, gydag amrywiaeth eang o weithgareddau sy’n cynnwys rheoli a rhannu data ymchwil gwyddorau cymdeithasol, cynnal prosiectau ymchwil, datblygu a gwerthuso polisi, yn ogystal ag adeiladu capasiti. Mae WISERD yn ymwneud ag amrywiaeth eang o sefydliadau, cynulleidfaoedd a defnyddwyr yn y sectorau cyhoeddus a phreifat, yng Nghymru a’r tu hwnt. Glyna WISERD at bolisïau ei bump sefydliad mewn cysylltiad a’r defnydd o’r iaith Gymraeg ar draws ei weithgareddau i gyd.
4. Mesurau penodol
- Llofnodion E-byst
- Cyhoeddusrwydd a Marchnata
- Gwefan
- Datganiadau i’r wasg
- Digwyddiadau
- Ymchwil
- Cyhoeddiadau
- Recriwtio
- Hyfforddiant a Datblygu Capasiti
- Cyfieithu
5. Monitro
Swyddog Cyswllt Allweddol: Cyfarwyddwr Gweithrediadau
Gweithrediaeth WISERD fydd â’r cyfrifoldeb am adolygu a monitro Polisi’r Gymraeg yn flynyddol. Bydd yn ei ymestyn a’i ddiwygio yn ôl y gofyn er mwyn sicrhau bod gweithgareddau yn gyson â Chynlluniau Iaith y sefydliadau partner.
Cyfeirnodau
Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Aberystwyth (2014)
Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Bangor (2013)
Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Caerdydd (2014)
Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol Abertawe (2011)
Cynllun Iaith Gymraeg Prifysgol De Cymru (2013)
http://www.legislation.gov.uk/mwa/2011/1/section/1/enacted/welsh
Swyddogion Cyswllt Allweddol WISERD
Uwch Weinyddydd WISERD: Tina Woods – woodst1@caerdydd.ac.uk
Swyddog Cyfathrebu WISERD: Cadan ap Tomos – WISERD.comms@caerdydd.ac.uk
Swyddog Digwyddiadau WISERD: Jane Graves – wiserd.events@caerdydd.ac.uk
Cyfeiriadur o staff WISERD sy’n siarad Cymraeg (Tachwedd 2017
Paul Chaney (Cyd-Gyfarwyddwr) Prifysgol Caerdydd: ChaneyP@caerdydd.ac.uk / 029 20874459
Stephanie Jones – (Myfyriwr PhD) – Prifysgol Bangor – soue15@bangor.ac.uk
Rhys Jones – (Athro) – Prifysgol Aberystwyth – raj@aber.ac.uk /+44 (0) 1970 622594
Ian Rees Jones (Cyfarwyddwr) Prifysgol Caerdydd: JonesIR4@caerdydd.ac.uk / 029 20876662
Sioned Pearce (Cydymaith Ymchwil) Prifysgol Caerdydd: PearceS11@caerdydd.ac.uk / 029 20879338
Rhian Powell – ( Myfyriwr PhD) – Prifysgol Caerdydd – PowellRE3@cardiff.ac.uk
Elin Royles – Uwch Ddarlithydd -Prifysgol Aberystwyth – ear@aber.ac.uk
Cadan ap Tomos (Swyddog Cyfathrebu WISERD): ApTomosC@cardiff.ac.uk / 029 2087 002