Yn sgîl datblygu cwricwlwm newydd ochr yn ochr â diwygiadau dylanwadol ym maes addysg, mae newidiadau o bwys yn digwydd yng Nghymru. Nodir y rhain yng nghynllun gweithredu Llywodraeth Cymru, ‘Addysg yng Nghymru: Ein Cenhadaeth Cenedlaethol 2017-2021. Gan gydnabod pwysigrwydd rôl Estyn i lwyddiant y rhaglen ddiwygio, mae Prif Arolygydd Addysg Ei Mawrhydi yng Nghymru wedi comisiynu adolygiad annibynnol o oblygiadau’r diwygiadau hyn i Estyn. Mae Ysgrifennydd y Cabinet dros Addysg a Sgiliau yn cefnogi’r adolygiad yn llawn.
Yr Athro Graham Donaldson sy’n arwain yr adolygiad.
Mae’n hanfodol bod yr adolygiad yn cael ei lywio gan safbwyntiau cynifer o randdeiliaid â phosibl yng Nghymru.
Mae’r Athro Donaldson wedi gofyn i Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ymgymryd â’r ‘Alwad am Dystiolaeth’ annibynnol hon.
Bydd yr ‘Alwad am Dystiolaeth’ yn dod i ben ar 17 Rhagfyr. Bydd WISERD yn mynd ati wedyn i gynnal dadansoddiad o’r ymatebion hyn ac yn cyflwyno adroddiad i’r Athro Donaldson ym mis Ionawr 2018.