Mae dadleuon amgylcheddol yn aml yn ymwneud â gwybodaeth ac arbenigedd gymaint ag y maent am wleidyddiaeth, hawliau a chyfleoedd bywyd. Y rheswm am hynny yw bod y dystiolaeth a gynhyrchir gan y gwahanol grwpiau dan sylw yn aml yn rhan o’r ddadl. Ceir anghydfodau ynghylch yr hyn sy’n hysbys ac nad yw’n hysbys, gan bwy, ac mae cywirdeb y ffynhonnell yn gallu creu tensiwn yn hytrach na chonsensws.

Mae grwpiau cymunedol yn ymateb i’r heriau hyn trwy fathau newydd o wyddoniaeth dinasyddion lle maent yn casglu data newydd y gellir ei ddefnyddio i herio penderfyniadau sy’n effeithio ar eu bywydau a’u cymunedau. Yn y prosiect hwn, byddwn yn gweithio gydag un grŵp o’r fath i fonitro ansawdd aer ac i wella eu hamgylchedd lleol. Bydd hyn yn cynnwys cefnogi, ac adrodd ar, eu gwaith i ddefnyddio offer monitro ac adeiladu rhwydweithiau cymunedol ynghyd ag archwilio sut mae eraill yn derbyn yr ymdrechion hyn.

Mae’r prosiect yn cyfrannu at raglen ehangach cymdeithas sifil WISERD trwy edrych ar sut mae’r mathau traddodiadol o anghyfiawnder e.e. mynediad at hawliau ac adnoddau, yn gysylltiedig â gwybodaeth ac arbenigedd. Yn y modd hwn, gall gwyddoniaeth dinasyddion fod yn fwy na gweithgaredd epistemig; gall hefyd fod yn sylfaen ar gyfer atgyweirio sifil a budd dinesig.

 

Cyfweliad gyda Dr Nick Hacking, Prifysgol Caerdydd

Mae Dr Nick Hacking o Brifysgol Caerdydd yn trafod ei brosiect ymchwil o’r enw ‘Arbenigwyr, Arbenigedd a Gwyddoniaeth Dinasyddion’. Mae’n astudiaeth achos sy’n cynnwys grŵp o bobl yn y Barri sydd wedi bod yn defnyddio monitorau ansawdd aer digidol i gofnodi a dadansoddi data fel rhan o anghydfod cynllunio lleol a fu’n mynd rhagddo ers tro byd. Mae Dr Hacking yn esbonio fel y mae’r astudiaeth achos hon yn awgrymu’r angen i ehangu ein dealltwriaeth o wyddoniaeth dinasyddion i gynnwys ystod lawer ehangach o weithgareddau.