Bydd y prosiect hwn yn canolbwyntio ar ddatblygu llinyn gwaith Deall Lleoedd fel set benodol o ddangosfyrddau rhyngweithiol sy’n darparu ystod eang o ddata demograffig, economaidd-gymdeithasol ac yn seiliedig ar asedau ar gyfer lleoliadau penodol. Mae’r gwaith yn adeiladu ar blatfformau Deall Lleoedd Cymru a Deall Lleoedd Cernyw gyda’r bwriad o ystyried cydweithrediadau newydd gydag awdurdodau lleol eraill / partneriaethau sy’n seiliedig ar leoedd e.e. Partneriaeth Marches Forward.