Mae Ffiniau, mecanweithiau ffiniol a mudo’n ystyried ffactorau sy’n siapio ymgysylltu cymdeithas sifil gyda mudo a ffurfiau ar ffinio drwy astudiaethau achos rhyngwladol cymharol ac ethnograffeg seiliedig ar lefydd, gan ystyried sut mae grwpiau cymdeithas sifil yn cyfleu mecanweithiau gweithredu ffiniau cymdeithasol.

Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a gorffen unigol eu hunain sy’n dod o fewn y rhaglen ymchwil bum mlynedd.

 

Cyfweliad gyda’r Athro Martina Feilzer, Prifysgol Bangor

Mae’r Athro Martina Feilzer o Brifysgol Bangor yn trafod ei hymchwil ar gefnogaeth sefydliadau cymdeithas sifil i ffoaduriaid a mudwyr mewn nifer o wledydd yn Ewrop, a sut yr arweiniodd hyn at ffocws annisgwyl ar brofiadau’r gymuned Roma. Bydd yr ymchwil hon yn rhoi gwybodaeth a thystiolaeth i sefydliadau cymdeithas sifil, a’r gallu i ymgysylltu â llunwyr polisïau am eu cymunedau.