Mae Nawddogaeth, elîtau a pherthnasau pŵer yn ystyried systemau nawddogaeth o fewn cymdeithas sifil a’r cysylltiadau rhwng cymdeithas sifil, haeniad dinesig a ffurfio elîtau. Mae’n ystyried gwreiddiau a phenllanw noddwyr mewn sefydliadau cymdeithas sifil, yn ogystal ag arwyddocâd sefydliadau addysgol gwahanol a phroffiliau galwedigaethol wrth roi mynediad breintiedig i safleoedd elît mewn cymdeithas sifil.

Y dyddiad dechrau a ddarperir yw dyddiad dechrau Canolfan Cymdeithas Sifil WISERD. Bydd gan becynnau gwaith eu dyddiadau cychwyn a gorffen unigol eu hunain sy’n dod o fewn y rhaglen ymchwil bum mlynedd.