Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 64/2017

Mae Strategaeth Tlodi Plant a Chynllun Gweithredu ar gyfer Trechu Tlodi Llywodraeth Cymru yn darparu fframwaith ar gyfer gwella canlyniadau aelwydydd incwm isel yng Nghymru. Maent yn anelu at leihau tlodi, yn enwedig tlodi parhaus ymhlith rhai o’n pobl a’n cymunedau tlotaf, a hefyd at leihau’r tebygolrwydd y bydd pobl yn mynd yn dlawd.

Yn 2014-15, roedd yr Arolwg Cenedlaethol yn cynnwys cyfres o gwestiynau ynghylch amddifadedd materol aelwydydd a phlant fel ffordd o fesur tlodi, ac yn arbennig fel ffordd o ganfod canlyniadau tlodi tymor hir i aelwydydd, yn hytrach na straen ariannol tymor byr.

Ar gyfer pob un o’r naw eitem, roedd modd i’r ymatebydd ddweud ei fod yn gallu ei fforddio, nad oedd ei hangen arno, neu yr hoffai’r eitem ond nad oedd yn gallu ei fforddio. Er enghraifft:

  • Oes gennych chi a’ch teulu/partner yswiriant cynnwys y cartref?
  • Ydych chi a’ch teulu/partner yn newid unrhyw ddodrefn sydd wedi gwisgo?
  • Pa mor dda ydych chi am dalu eich biliau a’ch ymrwymiadau credyd ar amser ar hyn o bryd?
  • Yn y gaeaf, ydych chi’n gallu cadw’r llety hwn yn ddigon cynnes?

 

Gofynnwyd cyfres ychwanegol o gwestiynau ynghylch mesurau penodol i blant o amddifadedd i ymatebwyr oedd â phlant dibynnol1 yn byw yn yr aelwyd, ee:

  • Oes gan eich plentyn/plant gôt gynnes ar gyfer y gaeaf?
  • Oes gan eich plentyn/plant hobi neu weithgaredd hamdden?
  • Ydy eich plentyn/plant yn mynd ar deithiau ysgol?

Roedd yr aelwydydd heb lawer o eitemau ar y rhestr gyntaf yn cael eu dosbarthu fel bod mewn “amddifadedd materol aelwydydd” a’r rhai heb lawer o eitemau ar yr ail restr yn cael eu dosbarthu fel bod mewn “amddifadedd materol penodol i blant”.