Bartlett, S. and Huxley, K. (2026) Pynciau gradd athrawon gwyddoniaeth yng Nghymru. Caerdydd: Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru)

Gan ddefnyddio data gweinyddol cysylltiedig o Gyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgolion (SWAC) a’r Asiantaeth Ystadegau Addysg Uwch (HESA), mae’r Cip ar Ddata hwn yn archwilio cefndiroedd gradd athrawon gwyddoniaeth sydd newydd gymhwyso yng Nghymru. Wrth wneud hynny, mae’n asesu aliniad rhwng arbenigedd pwnc gradd israddedig a dyraniad addysgu. Archwilir y patrymau hyn hefyd yn ôl rhyw athrawon, y lefel addysg maen nhw’n ei haddysgu, y cyfrwng iaith maen nhw’n addysgu ynddo, a daearyddiaeth eu hysgol.