Bartlett, S. and Huxley, K. (2026) Cip ar Ddata: Y gweithlu addysgu gwyddoniaeth yng Nghymru. Caerdydd: Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru).

Mae’r Cip ar Ddata hwn yn rhoi trosolwg o’r gweithlu addysgu gwyddoniaeth mewn ysgolion uwchradd a gynhelir gan y wladwriaeth yng Nghymru o 2021. Gan ddefnyddio data gweinyddol o Gyfrifiad Blynyddol y Gweithlu Ysgolion (SWAC), mae’n archwilio cyfran y gweithlu addysgu gwyddoniaeth sy’n cyflwyno pynciau unigol gwyddoniaeth, bioleg, cemeg a ffiseg, a sut maent wedi’u dosbarthu ar draws rhyw, cyfnod addysg, cyfrwng iaith a daearyddiaeth yr ysgol. Mae hyn yn darparu tystiolaeth i lywio trafodaethau ar gynllunio a dosbarthu’r gweithlu mewn addysg gwyddoniaeth orfodol ac ôl-16 ledled Cymru.