LLywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Cymdeithasol, 45/2018

Yn Ionawr 2018, penododd Llywodraeth Cymru gwmni Ymchwil OB3, ar y cyd â Sefydliad Ymchwil, Data a Dulliau Cymdeithasol ac Economaidd Cymru (WISERD) ym Mhrifysgol Caerdydd, i gyflawni astudiaeth pennu cwmpas ar gyfer cynllun peilot astudio dramor.

Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gynnal cynllun peilot i archwilio pa mor ymarferol yw ymestyn y pecyn newydd o gymorth i fyfyrwyr sy’n cael ei gyflwyno yn 2018/19 i fyfyrwyr sydd am astudio y tu hwnt i’r DU a’r UE, yn unol ag argymhellon Adolygiad Diamond. Rhagwelir y caiff y prosiect ei lansio
ym mlwyddyn academaidd 2018/19 gyda’r gweithgareddau’n canolbwyntio ar hysbysebu’r cynllun peilot a’r broses ymgeisio, gyda’r ymgeiswyr yn gwneud cais i astudio o ddechrau blwyddyn academaidd 2019/20 ymlaen. Amserlennwyd y cynllun peilot i redeg am dair blynedd gan gychwyn yn 2019/20. Byddai’r cynllun peilot yn cynnig cyfle i brofi’r materion ymarferol, y problemau posibl a’r risgiau sydd ynghlwm wrth gynnig cyllid cludadwy i astudio dramor.

Nod yr astudiaeth pennu cwmpas yw darparu tystiolaeth i ategu datblygiad cynllun peilot ar astudio dramor. Defnyddir yr astudiaeth pennu cwmpas hefyd i gynorthwyo datblygiad gwerthusiad o’r cynllun peilot ei hun.