Thomas, I. and Jing, Y. (2026) Digartrefedd ac anfanteision difrifol eraill yn ystod llwybrau i fod yn oedolion. Caerdydd: Ymchwil Data Gweinyddol Cymru (YDG Cymru).
Mae dadansoddiad newydd wedi tynnu sylw at y graddau y mae pobl ifanc yng Nghymru yn profi anfantais ddifrifol yn ystod y cyfnod pontio i fod yn oedolion.
Dilynodd ymchwilwyr o dîm ymchwil Tai a Digartrefedd YDG Cymru tua 61,000 o bobl ifanc o’u pen-blwydd yn 16 oed am hyd at naw mlynedd, gan archwilio cofnodion yn ymwneud â salwch meddwl, camddefnyddio cyffuriau, camddefnyddio alcohol a digartrefedd ymhlith pobl ifanc. Canfu’r astudiaeth fod tua 1 o bob 18 o bobl ifanc wedi profi sawl ffurf (dau neu fwy) o anfantais ddifrifol, gan fodloni diffiniad yr astudiaeth o Anfantais Ddifrifol a Lluosog (SMD).
Salwch meddwl oedd yr anfantais a gofnodwyd amlaf o bell ffordd, a brofwyd gan 27% o’r garfan, tra bod camddefnyddio cyffuriau wedi’i brofi gan 5%, camddefnyddio alcohol gan 3% a digartrefedd gan 1%. Lle roedd pobl ifanc yn profi SMD, y cyfuniad mwyaf cyffredin o anfanteision oedd salwch meddwl a chamddefnyddio sylweddau, gan dynnu sylw at y graddau y gall gwahanol heriau orgyffwrdd yn ystod taith pobl ifanc i fod yn oedolion.
Ymhlith y bobl ifanc hynny a brofodd ddigartrefedd, roedd salwch meddwl yn ymddangos yn gynharach yn gyffredinol, gyda phroblemau sy’n gysylltiedig â sylweddau hefyd yn tueddu i ddigwydd cyn digartrefedd. Pwysleisiodd yr ymchwilwyr nad yw’r canfyddiadau’n sefydlu perthynas achosol, ond dywedasant fod y patrwm yn awgrymu y gallai cyswllt â gwasanaethau iechyd a chymorth ddarparu cyfleoedd i ymyrryd cyn i bobl ifanc brofi digartrefedd.
Mae gan y canfyddiadau oblygiadau i wasanaethau sy’n ceisio atal digartrefedd ac ymdrin ag anfantais ymhlith pobl ifanc yng Nghymru. Gallai cydweithrediad cryfach rhwng gwasanaethau ieuenctid, iechyd, tai a gwasanaethau cyhoeddus eraill helpu i nodi a chefnogi pobl ifanc cyn i anfanteision lluosog ddod yn rhan annatod o’r sefyllfa.
Cyhoeddwyd y post hwn yn wreiddiol gan ADR Cymru, gweler y post gwreiddiol yma