Mae gan sawl tref Gymreig gefeilldref yn Llydaw. Mae trefeillio yn rhan o gymdeithas sifil, gan greu cyfleoedd am gyfeillgarwch rhyngwladol a chyfnewid diwylliannol. Dathla cysylltiadau Cymreig-Llydewig, yn benodol, treftadaeth Geltaidd gyffredin. Ond gyda heriau medig wyliau cost isel a Brecsit, a fydd trefeillio’n parhau’n berthnasol, neu fydd yn cael ei gaethiwo i hanes?