Llywodraeth Cymru, Rhif Ymchwil Gwydeithasol: 38/2016

Yn yr adroddiad hwn, rydym yn cyflwyno trafodaeth dechnegol ar y gwerthusiad tair blynedd (mis Awst 2011 i fis Awst 2014). Mae hyn yn cynnwys amlinelliad o gynllun y gwerthusiad, y dulliau a ddefnyddiwyd wrth werthuso a gwybodaeth fanwl arall am y gwerthusiad. Mae’r Cyfnod Sylfaen yn bolisi blaenllaw Llywodraeth Cymru ar gyfer addysg y blynyddoedd cynnar (i blant 3 i 7 oed) yng Nghymru. Mae’n wyriad radical oddi wrth yr ymagwedd fwy ffurfiol, seiliedig ar gymhwysedd sy’n gysylltiedig â Chwricwlwm Cenedlaethol blaenorol Cyfnod Allweddol 1, gan argymell dull datblygiadol, arbrofol, seiliedig ar chwarae o addysgu a dysgu. Mae’r polisi wedi cael ei gyflwyno’n raddol yn ystod y saith mlynedd diwethaf fel ei fod yn cynnwys pob plentyn 3 i 7 oed yng Nghymru erbyn 2011/12.

Ym mis Ebrill 2011, roedd Llywodraeth Cymru, ar ran Gweinidogion Cymru, wedi gwahodd tendrau ar gyfer gwerthusiad annibynnol tair blynedd o’r Cyfnod Sylfaen. Yn dilyn proses dendro gystadleuol, penodwyd tîm amlddisgyblaethol o ymchwilwyr, o dan arweiniad yr Athro Chris Taylor o Brifysgol Caerdydd a Sefydliad Ymchwil Gymdeithasol ac Economaidd, Data a Dulliau Cymru (WISERD), i gynnal y gwerthusiad ym mis Gorffennaf 2011.

Mae gan y gwerthusiad tair blynedd (2011-2014) bedwar prif nod, fel yr amlinellwyd gan Lywodraeth Cymru yn ei manyleb tendr ymchwil wreiddiol:

  • gwerthuso pa mor dda y mae’r Cyfnod Sylfaen yn cael ei roi ar waith ac amlygu ffyrdd y gellir gwella (gwerthuso’r broses)
  • gwerthuso pa effaith y mae’r Cyfnod Sylfaen wedi’i chael hyd yma (gwerthuso’r canlyniad)
  • asesu gwerth am arian y Cyfnod Sylfaen (gwerthusiad economaidd)
  • sefydlu fframwaith gwerthuso ar gyfer olrhain allbynnau a deilliannau’r Cyfnod Sylfaen yn y dyfodol (y fframwaith gwerthuso)

Bu tri phrif adroddiad blynyddol. Mae’r adroddiad blynyddol cyntaf ar y gwerthusiad ar gyfer 2011/12 (Taylor et al. 2013) yn amlinellu gwaith y gwerthusiad yn ystod ei flwyddyn gyntaf ac yn rhoi crynodeb o’r ymchwil a’r canfyddiadau o Gam I y cynllun gwerthuso. Mae’r ail adroddiad blynyddol ar gyfer 2012/13 (Taylor et al. 2014) yn rhoi diweddariad technegol ar y gwerthusiad a’r dulliau a ddefnyddiwyd yng Ngham II y cynllun gwerthuso. Mae’r trydydd adroddiad (Taylor et al. 2015a), sef yr adroddiad terfynol, yn rhoi crynodeb o’r gwerthusiad gyfan ac yn cyflwyno canfyddiadau allweddol ac argymhellion. Mae’r adroddiad hwn yn dwyn ynghyd y tri adroddiad hyn i amlinellu’r fethodoleg a’r dulliau a ddefnyddiwyd ar draws pob un o dair blynedd y gwerthusiad o’r Cyfnod Sylfaen.